Newyddion S4C

'Ni fyddwn yn colli gobaith' o ddod o hyd i Dr Michael Mosley, medd ei wraig

08/06/2024
Mosley / Ynys Symi

Mae gwraig Dr Michael Mosley wedi dweud na fydd y teulu 'yn colli gobaith' o'i ganfod, wrth i ymdrechion i ddod o hyd iddo barhau yng Ngwlad Groeg.

Mae’r heddlu a swyddogion tân ac achub yn defnyddio dronau i geisio dod o hyd i Dr Mosley, 67 oed, sydd wedi bod ar goll ar ynys Symi ers pedwar diwrnod.

Ddydd Gwener, fe wnaeth deifwyr ymuno yn yr ymdrech i’w ddarganfod, tra bod hofrenyddion hefyd yn cael eu defnyddio i ymchwilio mewn ardal 'fynyddig ac anghysbell'.

Cafodd Dr Mosley, sy'n aml yn ymddangos ar raglenni fel This Morning, ei weld am y tro diwethaf ddydd Mercher.

Mewn datganiad, dywedodd ei wraig, Dr Clare Bailey Mosley: "Mae 'na dridiau ers i Michael adael y traeth i fynd am dro. Y dyddiau hiraf a mwyaf annioddefol i mi a fy mhlant.

“Mae’r chwilio’n parhau ac mae ein teulu mor ddiolchgar i bobl Symi, awdurdodau Gwlad Groeg a’r Is-gennad Prydeinig sy’n gweithio’n ddiflino i helpu i ddod o hyd i Michael.

"Ni fyddwn yn colli gobaith."

Dywedodd heddlu Gwlad Groeg fod y darlledwr wedi gadael ei wraig ar draeth cyn cychwyn ar daith gerdded i ganol yr ynys.

Yn ôl y llu, cafwyd hyd i ffôn Mr Mosley lle’r oedd yn aros gyda’i wraig.

Image
Ynys Symi
Mae’r heddlu a swyddogion tân ac achub yn defnyddio dronau i geisio dod o hyd i Dr Mosley (Llun: PA)

Y gred yn wreiddiol oedd ei fod wedi mynd ar goll tra'n cerdded ar hyd llwybr arfordirol - ond bellach mae lluniau cylch cyfyng yn awgrymu ei fod wedi cyrraedd tref gyfagos.

Mae llygaid-dystion hefyd wedi dweud wrth yr heddlu eu bod wedi ei weld mewn arosfan fysiau yn y dref.

Gwres

Dywedodd Maer Symi, Eleftherios Papakaloudoukas, wrth asiantaeth newyddion PA fore Sadwrn nad oedd ‘unrhyw siawns’ y byddai’r ymgyrch i ddod o hyd i Mr Mosley yn cael ei ohirio cyn iddo gael ei ganfod.

Dywedodd Mr Papakaloudoukas fod yr ardal yr oedd yn creu fod Mr Mosley wedi teithio iddo yn “greigiog” ac yn “anodd i fynd drwyddo”.

Fe wnaeth gwestiynu sut y byddai unrhyw berson yn gallu goroesi yn y gwres, a gododd  uwchlaw 40 gradd selsiws ar y diwrnod aeth Dr Mosley ar goll.

Fe ychwanegodd fod ci synhwyro oedd yn rhan o’r ymdrechion i’w ganfod dim ond wedi gallu gweithio am awr fore Sadwrn, oherwydd y gwres.

Dywedodd Mr Papakaloudoukas ei fod yn gobeithio y byddai Dr Mosley yn cael ei ganfod yn “ddiogel ac yn fyw”, gan ychwanegu, “mae’r gymuned gyfan mor drist amdano hyn, tydi hyn erioed wedi digwydd o’r blaen.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: “Rydym yn cefnogi teulu dyn o Brydain sydd ar goll yng Ngwlad Groeg ac rydym mewn cysylltiad â’r awdurdodau lleol."

Mae Dr Mosley yn adnabyddus i wylwyr This Morning a The One Show am rannu cyngor ar sut i gadw’n iach ac yn heini.

Mae hefyd wedi ymddangos yn y gyfres BBC, Trust Me, I’m a Doctor ac ar y podlediad, Just One Thing.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.