Newyddion S4C

Oergell gymunedol yn 'help mawr' i drigolion ym Mhowys

09/06/2024

Oergell gymunedol yn 'help mawr' i drigolion ym Mhowys

Mae oergell gymunedol a gafodd ei sefydlu mewn tref ym Mhowys gyda’r nod o leihau gwastraff bwyd bellach yn “help mawr” i drigolion sy’n ei chael yn anodd i brynu bwyd o siopau. 

Mae sefydliad Cross Keys Llanfyllin CIC yn gartref i’r oergell cymunedol, ac mae croeso i unrhyw un ei ddefnyddio – i roi neu gymryd y bwyd oddi honno. 

Yn sefydliad 'nid er elw', mae’r Cross Keys yn ganolbwynt i’r gymuned leol yn ogystal â rhywle i bobl i ddod at ei gilydd, meddai’r rheolwr Shan Meyor. 

Ac er i’r oergell gymunedol gael ei sefydlu yno gyda’r nod o leihau gwastraff bwyd er lles yr amgylchedd, mae bellach yn adnodd i unigolion sy’n ei chael hi'n anodd i fforddio nwyddau o siopau. 

Un sydd yn defnyddio’r oergell yw Andrew Tipton, wedi iddo golli ei bartner y llynedd gan arwain at drafferthion ariannol. 

“Mae dod fan hyn i gael bach o fwyd yn help mawr, mae gen i bach o falchder a dwi ddim yn hoffi gofyn i deulu a ffrindiau os dwi’n gallu osgoi hynny. 

“Ond mae dod fan hyn yn wahanol achos does dim rhaid i chi ofyn, mae yna i chi yn barod,” meddai. 

Mae Mr Tipton yn byw â chyflwr PTSD, ac nid yw’n teimlo’n ddigon hyderus i deithio y tu allan i dref Llanfyllin. 

Dywedodd wrth Newyddion S4C: “Dwi ddim yn gadael y dref fy hunan, a dwi’n ‘nabod lot o bobl sydd ddim yn ‘neud o achos anabledd, ofn neu ddiffyg trafnidiaeth.”

Image
Andrew Tipton
Andrew Tipton

'Galw'

Yn fodryb i'r reolwr Shan Meyor, mae Mair Ellis yn cyfrannu bwyd i’r oergell yn aml, a hithau yn dweud ei bod yn gymorth i’r rheiny sy'n methu â chyrraedd banc bwyd gan nad oes un yn lleol. 

Dywedodd fod galw am oergell gymunedol o’r fath yn y dref, er bod nifer ddim yn sylweddoli hynny. 

“Fel arall, mae pobl yn gorfod mynd i’r Trallwng neu Groesoswallt os ydyn nhw eisiau banc bwyd,” esboniodd.

“Ac efo pobol, mewn ffordd, sydd angen y banc bwyd, does dim trafnidiaeth efo nhw, maen nhw’n gorfod mynd ar fws neu maen nhw’n gorfod cael reid gyda rhywun arall i fynd a nhw yn aml iawn. 

“Ac mae’n debyg fod ni ddim yn sylweddoli hyn; maen nhw’n gorfod mynd ar amser arbennig i gael y bwyd yma, ‘dydyn nhw ddim yn jyst gallu mynd pryd fydd yn gyfleus iddyn nhw.”

Image
Mair Ellis
Mair Ellis

'Balch'

Mae Amanda a John Dady yn gwirfoddoli yn Y Pantri, ble mae’r oergell yn cael ei chadw. 

Dywedodd Ms Dady: “Mae rhai pobl yn dod yma’n rheolaidd, maen nhw’n dod ac yn edrych ar yr hyn sydd ar gael.” 

Ychwanegodd ei gŵr eu bod yn gobeithio lleihau cyfanswm y bwyd sy’n cael ei wastraffu yn eu hardal.  

Image
Amanda a John Dady
John ac Amanda Dady

Mae’r rheolwr yn falch o holl wasanaethau Cross Keys Llanfyllin CIC, a hithau’n gobeithio ehangu ar yr hyn sy’n cael ei gynnal yno. 

“Mae gynnon ni Tŷ Gweddi, Tŷ Coffi a Hufen Ia, Tŷ Pawb sy’n lle cymunedol, Tŷ Cwtch lle mae gynnon ni lot o dai allith pobl ddod i fyw ynddynt, a hefyd Tŷ Bendithion,” meddai. 

Mae’r sefydliad hefyd yn gartref i ystafell ‘deimladau’ sydd gan amlaf yn cael ei defnyddio gan blant lleol. 

Mae Shan Meyor yn gobeithio cydweithio gyda swyddogion arbenigol er mwyn datblygu’r ystafell hon er lles pobl ag anghenion dysgu a’r rheiny sy’n byw gyda phroblemau iechyd meddwl. 

Image
Shan Meyor
Shan Meyor



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.