Newyddion S4C

Cyhuddo tri ar ôl darganfod ffatri losin canabis ar 'raddfa fasnachol' yn Sir Benfro

07/06/2024
Gumies
Mae tri dyn wedi eu cyhuddo ar ôl i'r heddlu ddod o hyd i ffatri losin canabis "ar raddfa fasnachol" yn Hwlffordd, Sir Benfro.
 
Dywed Heddlu Dyfed Powys bod swyddogion wedi darganfod fod cyfeiriad yn y dref yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu miloedd o losin canabis anghyfreithlon.
 
Mae pryder bod y losin yn cael ei ddosbarthu i bobl ifanc medd y llu.
 
Aeth swyddogion i gyfeiriad yng Nghrymych gyda warant hefyd, ac fe ddaeth swyddogion o hyd i ychydig o ganabis yno.
 
Mae Chay Miles, 27 oed,  John Miles, 51 oed a Kyle Gadsby, 19 oed, wedi eu cyhuddo o fod â chyffruriau dosbarth B yn eu meddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi, ac o chwarae rhan mewn dosbarthu cyffuriau dosbarth B.
 
Mae'r tri wedi eu cadw yn y ddalfa ac fe fydd eu gwrandawiad llys ar 8 Gorffennaf.
 
Dywedodd yr heddlu eu bod am i rieni fod yn ymwybodol nad yw losin canabis yn arogli na'n edrych yn wahanol i losin arferol, ac fe allai'r losin gynnwys cynhyrchion anghyfreithlon eraill.
 
Fe allai'r losin, sydd yn cael eu galw'n 'gummies' neu 'bites', apelio at bobl ifanc o achos y ffordd y maen nhw wedi cael eu pecynnu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.