Ffilm fer Gymraeg i gael ei dangos yng ngŵyl ffilm fwyaf Prydain
‘Ni eisiau mynd â Chymru a straeon o Gymru i’r byd.’
Dyna ddymuniad cynhyrchydd ffilm fer Gymraeg newydd fydd yn cael ei dangos yng ngŵyl ffilm fwyaf Prydain ar ddiwedd y mis.
Mae Bethan Jenkins a’i chydweithwyr yng nghwmni cynhyrchu Triongl wedi bod yn gweithio ar Dim Ond Ti A Mi ers y llynedd.
Ffilm arswyd yw Dim Ond Ti A Mi sydd wedi cael ei hysgrifennu gan y cyfarwyddwr Griff Lynch fel rhan o gynllun Beacons Ffilm Cymru, ar y cyd â'r BBC.
O fewn ychydig wythnosau, bydd y criw yn cael dathlu ffrwyth eu llafur yn yr ŵyl adnabyddus Raindance yn Llundain.
Bydd y ffilmiau buddugol mewn rhai categorïau yn gymwys ar gyfer Gwobrau'r Oscars a Gwobrau BAFTA.
“Mae’n rili anhygoel meddwl y bydd ffilm uniaith Gymraeg yn cael ei dangos ochr yn ochr â ffilmiau o bob cwr o’r byd,” meddai.
Gwthio’r ffiniau
Mae’r ffilm yn adrodd stori bachgen o’r wlad o'r enw Meirion sy'n yn mynd â’i gariad o’r ddinas, sef Mabli, adref am y tro cyntaf.
Ond mae'r profiad yn troi'n un tywyll wrth i Mabli sylweddoli nad yw ei rieni yn gweld bywyd yn yr un ffordd â hi.
Yn rhan o'r cast mae Eiry Thomas (Mrs Jones), Rhodri Evan (Mr Jones), Mabli Jên Eustace (Mabli), Siôn Alun Davies (Meirion) ac Emily Fray (Gwen).
“O’r funud nes i ddarllen y sgript o’n i wir yn hoffi’r thema odd yn rhedeg trwyddo,” meddai Bethan.
“Mae’r ffilm yn chwarae ar y traddodiadol a’r modern ond er hynny yn teimlo’n gynhenid Gymraeg, ac mae hwnna’n wreiddiol i ni yma yn Triongl.
“Ni eisiau mynd â Chymru a straeon o Gymru i’r byd, a bod y straeon yna’n authentic.”
Mae’r ffilm eisoes wedi ennill ffilm fer arswyd orau yn Ngŵyl Ffilm Annibynol Llundain fis Ebrill.
Yn ôl Bethan, mae cael bod yn rhan o ŵyl Raindance yn gyfle i godi proffil yr iaith Gymraeg.
“Yn aml iawn mae’n teimlo fel bod y Gymraeg yn gorfod brwydro am blatfform yma yng Nghymru, heb sôn y tu hwnt i Gymru.
“Felly mae’n braf cael cydnabyddiaeth yn Llundain a gwneud yr iaith yn fwy clywadwy a gweladwy.”
Dywedodd Bethan nad yw llawer o bobl y tu allan i Gymru yn ymwybodol bod y Gymraeg yn iaith fyw.
“Pan aethon ni lan i Ŵyl Ffilm Annibynnol Llundain, o’n i’n siarad efo rhywun yn fan ‘na ac oedd o’n dweud, 'we can’t believe there’s a film entirely in Welsh with subtitles'”, meddai.
“A pan nes i ddweud, there’s a series on Netflix completely in Welsh - Dal y Mellt - oedd e fel, 'Oh my God, I’m going to go and watch it.'
“Felly mae’r ffaith bod ffilm fer yn mynd i Lundain falle yn mynd i wneud gwahaniaeth i feddylfryd rhywun yn anhygoel dw i’n credu.”
Ychwanegodd: “Does neb yn meddwl ddwywaith am wylio Griselda neu Squid Game efo is-deitlau, felly pam dyle ffilmiau o Gymru fod yn wahanol?”
‘Hollbwysig’ ariannu ffilmiau Cymraeg
Er bod Bethan yn dweud bod y diwydiant ffilm yn ffynnu yng Nghymru, mae toriadau yn y sector celfyddydau yn “bryder mawr”.
“Fi’n credu bod mantais i ffilm yn yr ystyr bod o’n gallu cyrraedd cynulleidfaoedd eang ar draws y byd yn ddigidol yn weddol hawdd nawr,” meddai.
“Fi ddim yn ceisio dibrisio pwysigrwydd pethau fel perfformiadau byw, ond mae parhau i ariannu ffilmiau yn un ffordd o sicrhau bod y Gymraeg yn cael presenoldeb yn y byd celfyddydau.
“Felly fi’n credu bod e’n hollbwysig bod sefydliadau fel Ffilm Cymru yn parhau i ariannu ffilmiau yn Gymraeg.”
Ychwanegodd: “Mae cynllun Sinema Cymru ar y cyd rhwng Ffilm Cymru ac S4C yn rhoi gobaith bod ffilm nodwedd y flwyddyn o bosib yn mynd i gael ei wneud yn Gymraeg, sy’n grêt.
“Dyw ffilmiau Cymraeg yn hanesyddol ddim wedi cael platfform mewn llefydd fel yr Oscars ers Hedd Wyn a Solomon & Gaenor, felly mae’r ffaith nawr bod cynlluniau fel Sinema Cymru ar y gweill yn golygu y gallwn ni fynd â Chymru a’r Gymraeg i’r byd.”
Yn y dyfodol, gobaith Bethan yw y bydd Dim Ond Ti A Mi yn cael ei mwynhau ar lefel lleol a rhyngwladol.
“Ni just yn gobeithio bydd y ffilm yn parhau i fod yn llwyddiannus mewn gwyliau yma ar draws Cymru a Phrydain, a gobeithio yn rhyngwladol,” meddai.
“Dw i’n gobeithio bydd o’n mynd o nerth i nerth, achos mae’r gwaith a’r cariad aeth mewn i’r ffilm yma yn destament i’r hyn sy’n cael ei ddangos ar y sgrin.”