Newyddion S4C

Codi mwy na £200,000 yn lleol ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd

Eisteddfod Genedlaethol

Mae mwy na £200,000 eisoes wedi ei godi drwy ddigwyddiadau cymunedol ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd ym mis Awst, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Roedd adroddiad i Gyngor Rhondda Cynon Taf gan bwyllgor gwaith yr Eisteddfod yn dangos bod £215,000 wedi ei gasglu erbyn Mai 17.

Fe fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ar Barc Ynysangharad rhwng 3 a 10 Awst eleni, gan ddychwelyd i Bontypridd am y tro cyntaf ers 1983.

Cafodd dros hanner miliwn ei godi ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd y llynedd ond mae disgwyl i godi arian fod yn fwy o her eleni.

Dywedodd yr adroddiad i'r cyngor bod ymdrechion i godi arian yn “ganolog i lwyddiant yr ŵyl a’i hetifeddiaeth yn Rhondda Cynon Taf”.

“Ein nod yw sicrhau bod pob cymuned yn cymryd rhan a hyrwyddo’r neges fod yr Eisteddfod i bawb ac nad oes angen i chi allu siarad Cymraeg i fwynhau a chymryd rhan yn ei gweithgareddau a’i digwyddiadau," medden nhw.

“Rydyn ni’n hyrwyddo ac ymgysylltu’n dda ac mae'r digwyddiad yn ennill momentwm. 

“Bydd ymdrechion parhaus i sicrhau bod aelodau, trigolion a busnesau ar draws y fwrdeistref sirol yn cymryd rhan a bod y mwyaf o arian posib yn cael ei godi.”

Mae’r cyngor wedi dweud y bydd y parc, Lido Play a Lido Ponty ar gau yn gyfan gwbl i ymwelwyr wrth baratoi ar gyfer yr ŵyl o 30 Gorffennaf ymlaen.

Dyma fydd y tro cyntaf i'r Eisteddfod Genedlaethol gael ei chynnal yn y Rhondda ers 1956, ac yn Aberdâr oedd hi bryd hynny.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.