Newyddion S4C

Pennaeth Dŵr Cymru yn honni bod y cwmni yn gwneud 'cynnydd da'

Dwr

Mae pennaeth Dŵr Cymru wedi honni bod y cwmni yn gwneud "cynnydd da" er gwaethaf cynnydd o 20% mewn achosion o lygredd.

Fe welodd cwmni dŵr mwyaf Cymru gynnydd mewn gollyngiadau carthion a llifogydd mewn carthffosydd er eu bod wedi gwario cannoedd o filiynau o bunnoedd ar wella eu systemau.

Mae Dŵr Cymru yn gwasanaethu tair miliwn o bobl yng Nghymru, Sir Henffordd a rhannau o Lannau Dyfrdwy.

Fe gofnododd y cwmni fod 107 o achosion o lygredd yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf o'i gymharu â 89 y flwyddyn flaenorol cynnydd o 20%.

Fel llawer o gwmnïau dŵr eraill, mae perfformiad Dŵr Cymru wedi bod yn destun dadlau dros y misoedd diwethaf.

Mae sgandal ar draws y diwydiant ynghylch gollyngiadau carthion a gwasanaeth cwsmeriaid gwael.

Fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru israddio'r cwmni am yr ail flwyddyn yn olynol yn 2023 o ganlyniad i’r 89 achos o lygredd. 

Roedd pump o'r achosion hynny wedi cael eu cofnodi fel rhai sy’n “cael effaith fawr neu arwyddocaol”.

Fe ostyngodd sgôr y cwmni o dair seren i ddwy ym mis Mehefin 2023, sy’n golygu bod “angen gwella”.

Ni ddywedodd Dŵr Cymru sawl achos o lygredd o’r 107 a gofnodwyd eleni oedd yn ddifrifol.

'Angen cydbwysedd'

Dywedodd Alastair Lyons, cadeirydd Dŵr Cymru: “Mae’n rhaid i’n cynlluniau ddod o hyd i’r cydbwysedd cywir o fod yn gyllidadwy, yn gyflawnadwy ac yn fforddiadwy i’n cwsmeriaid heb gadw problemau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Er bod llawer mwy i’w wneud o hyd, rydyn ni’n gwneud cynnydd da yn erbyn yr ymrwymiadau rydyn ni wedi’u gwneud.”

Dywedodd Dŵr Cymru eu bod wedi buddsoddi £483 miliwn y llynedd i “wella gwasanaethau i’w gwsmeriaid a’i gymunedau ac i warchod yr amgylchedd”.

Ond fe adroddodd y cwmni fod 201 o achosion o lifogydd o garthffosyd o'i gymharu â 169 y flwyddyn flaenorol – cynnydd o 16%.

Ym mis Mai fe gafodd Dŵr Cymru orchymyn i dalu £40 miliwn i gwsmeriaid wedi i’r corff sy’n goruchwylio’r diwydiant ddweud eu bod wedi eu camarwain.

Roedd y cwmni wedi cam-adrodd data perfformiad am ollyngiadau a defnydd fesul pen.

Dywedodd Ofwat bod ymchwiliad a ddechreuodd ym mis Mai'r llynedd wedi darganfod tystiolaeth o “fethiant llywodraethol a rheoleiddiol” yn Dŵr Cymru.

Mae Dŵr Cymru wedi ymddiheuro am y broblem gan ddweud mai nhw dynnodd sylw Ofwat ati yn 2022.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.