Newyddion S4C

Rishi Sunak yn ymddiheuro ar ôl methu un o seremoniau D-Day

07/06/2024
Rishi Sunak

Mae’r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi ymddiheuro ar ôl methu seremoni i nodi 80 mlynedd ers D-Day er mwyn cynnal cyfweliad ar gyfer ITV.

Dywedodd ei fod yn “gamgymeriad” peidio ag aros yn Ffrainc ar gyfer y seremoni ryngwladol ddydd Iau ar ôl bod yn rhan o seremoni Brydeinig yn gynharach.

Mae wedi derbyn cryn feirniadaeth am y penderfyniad o fewn ei blaid ei hun.

Dywedodd Syr Craig Oliver, a oedd yn bennaeth cyfathrebu yr Arglwydd Cameron yn Rhif 10, fod Mr Sunak mewn peryg o “beidio â deall beth ydi bod yn Brif Weinidog”.

Meddai’r Prif Weinidog: “Rydw i’n poeni’n fawr am gyn-filwyr ac rydw i wedi cael yr anrhydedd o gynrychioli’r DU mewn nifer o ddigwyddiadau yn Portsmouth a Ffrainc dros y ddau ddiwrnod diwethaf a chwrdd â’r rhai a ymladdodd mor ddewr.

“Ar ôl i’r digwyddiad Prydeinig yn Normandi ddod i ben, dychwelais yn ôl i’r DU. O feddwl, camgymeriad oedd peidio ag aros yn Ffrainc yn hirach - ac rydw i’n ymddiheuro.”

Roedd arweinwyr rhyngwladol gan gynnwys yr Arlywydd Joe Biden yn bresennol yn y digwyddiad ddydd Iau.

Ond fe wnaeth Gweinidog Tramor y DU, David Cameron, gymryd rhan yn lle Rishi Sunak.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.