Newyddion S4C

Ymchwilio i gynnydd mewn achosion o E.coli mewn bwyd

06/06/2024
bacteria

Mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, ynghyd ag asiantaethau iechyd cyhoeddus Cymru, Yr Alban, a Gogledd Iwerddon yn ymchwilio i gynnydd yn nifer yr achosion o E.coli yn y DU dros yr wythnosau diwethaf.

Hyd yma mae 18 o achosion wedi eu cadarnhau yng Nghymru allan o gyfanswm o 113 drwy Brydain. 

Gall heintiau a achosir gan facteria STEC E.coli achosi dolur rhydd gwaedlyd difrifol ac, mewn rhai achosion, cymhlethdodau mwy difrifol. 

Mae'n aml yn cael ei drosglwyddo drwy fwyd ond gall hefyd gael ei ledaenu trwy gysylltiad agos â pherson sydd wedi ei heintio, yn ogystal â chysylltiad uniongyrchol ag anifail sydd wedi ei heintio.

Mae gwaith ymchwil fel rhan o'r ymchwiliad presennol yn dangos bod y rhan fwyaf o achosion yn gysylltiedig ag o un achos. 

Yn seiliedig ar ledaeniad daearyddol eang yr achosion, mae'n fwyaf tebygol bod yr achos hwn yn gysylltiedig ag eitem o fwyd sydd yn cael ei ddosbarthu yn genedlaethol. 

Tarddiad

Nid yw tarddiad yr achos wedi'i gadarnhau eto ond ar hyn o bryd nid oes unrhyw dystiolaeth yn cysylltu'r achosion â ffermydd agored, dŵr yfed neu nofio mewn dŵr môr, llynnoedd neu afonydd. 

Mae asiantaethau iechyd y cyhoedd yn gweithio gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Bwyd yr Alban i ymchwilio i darddiad yr achosion.

Erbyn 4 Mehefin, roedd 113 o achosion wedi’u cadarnhau yn gysylltiedig â’r achos hwn o STEC O145 yn y DU, gyda phob un wedi’i gofnodi ers 25 Mai.

Roedd 18 achos yng Nghymru, 81 achos yn Lloegr, 13 yn yr Alban, un yng Ngogledd Iwerddon. Ar gyfer yr achos yng Ngogledd Iwerddon mae tystiolaeth yn awgrymu eu bod wedi cael eu heintio wrth ymweld â Lloegr.

Dywedodd Wendi Shepherd, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda phartneriaid yn y DU ac ar draws GIG Cymru i ymchwilio i’r digwyddiad hwn. 

"Ar hyn o bryd mae 18 o achosion wedi'u nodi yng Nghymru ac mae darparwyr gofal iechyd wedi cael gwybod am y cynnydd mewn achosion. 

"Byddem yn cynghori unrhyw un sydd wedi profi dolur rhydd gwaedlyd neu grampiau stumog difrifol i geisio sylw meddygol."

 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.