Darpar ymgeisydd y Ceidwadwyr am 'dynnu ei enw yn ôl' mewn sedd allweddol yng Nghymru
Mae un o ddarpar ymgeiswyr y Ceidwadwyr yng Nghymru wedi dweud y bydd yn "tynnu ei enw yn ôl," a hynny mewn sedd allweddol i’r blaid.
Roedd Sam Trask, sy’n gynghorydd i’r Ceidwadwyr yn y Rhondda, wedi bwriadu sefyll dros y blaid yn sedd Pen-y-bont ar Ogwr.
Dywedodd papur newydd The Mirror eu bod nhw wedi dod o hyd i neges honedig ganddo ar-lein dan ffug enw yn defnyddio iaith rywiol anweddus.
Dywedodd Sam Trask wrth y papur newydd yr hoffai ymddiheuro am y sylwadau “hollol amhriodol” a’i fod wedi penderfynu “tynnu ei enw yn ôl fel ymgeisydd”.
Ni fydd enwebiadau terfynol y pleidiau ar gyfer etholaethau Cymru yn cael eu cadarnhau tan ddydd Gwener.
Y Ceidwadwr Jamie Wallis sydd wedi cynrychioli'r etholaeth gyda mwyafrif o 1,157 ers ei hennill yn 2019, ond nid yw’n sefyll ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn yr etholiad ar 4 Gorffennaf.
Wrth ymateb i sylwadau Sam Trask, dywedodd Chris Elmore, ymgeisydd Llafur yn y sedd, bod y mater yn codi “cwestiynau difrifol” am ymgeiswyr y Ceidwadwyr.
“Mae pobl yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn disgwyl gwell gan eu hymgeiswyr am swyddi cyhoeddus,” meddai.
“Gyda’r dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yn agosáu, mae gan Rishi Sunak amser o hyd i wneud y peth iawn a gwneud yn siŵr bod ei ymgeiswyr yn addas i wasanaethu’r cyhoedd yn San Steffan.”
Mae’r ymgeiswyr eraill yn cynnwys Iolo Caudy o Blaid Cymru, Debra Cooper o’r Blaid Werdd, Caroline Jones o Reform UK, Claire Waller o’r Democratiaid Rhyddfrydol, a Mark Richard John sy’n sefyll fel ymgeisydd annibynnol.