Newyddion S4C

Chwaraeon amatur i bobl anabl: 'Heb Bravehearts fyddwn i ddim yn gallu chwarae pêl-droed'

ITV Cymru 07/06/2024
bravehearts.png

Mae clwb pêl-droed yn y de wedi agor drysau i bobl ifanc anabl fyddai “ddim yn gallu chwarae’r” gamp fel arall. 

Mae Bravehearts yn gartref i bobl ifanc sydd yn ymarfer yn Abertawe ac yn cymryd rhan mewn twrnameintiau ar draws De Cymru. 

Mae sawl chwaraewr yn y clwb yn dweud bod chwarae pêl-droed yn wythnosol yn galluogi iddyn nhw gwrdd â phobl mewn sefyllfa debyg a theimlo eu bod mewn awyrgylch cyfartal.

Mae gan Ffion ddyslecsia, dyspracsia a dyscalcwlia ac mae hi wedi bod yn chwarae’n gyson gyda’r clwb ers tua blwyddyn. 

“Dwi’n teimlo fel alltud weithiau oherwydd fy anabledd i, mae pobl yn gallu bod yn hynod o ansensitif. 

Image
Ffion
Mae gan Ffion ddyslecsia, dyspracsia a dyscalcwlia

“Yn yr ysgol, ces i fy mwlio oherwydd y ffordd dwi’n edrych, fel fi’n cerdded a’r ffordd dwi’n siarad. Gyda chlwb pêl-droed Bravehearts, unwaith yr wythnos, mae gen i rywle i fod.”, meddai wrth ITV Cymru. 

Yn ogystal â chynnig lle i bobl ifanc deimlo’n ddiogel, mae’r clwb yn rhoi cyfle i aelodau ymlacio a chymdeithasu. 

Bravehearts yw’r clwb hynaf a mwyaf yng Nghymru ar gyfer pobl anabl.

Roedd y clwb wedi cael ei sefydlu gan Alan Honeyman yn 2000, ac ers hynny mae’r clwb wedi trefnu twrnameintiau ar draws Cymru. Mae Bravehearts hefyd yn dod o hyd i gyfleoedd i bobl gystadlu ar lefel uwch os ydyn nhw’n dymuno.

Aelod arall o’r clwb yw Ciaran, sy’n byw gyda pharlys yr ymennydd. Mae e hefyd yn teimlo fel bod pobl yn ei feirniadu oherwydd ei anabledd corfforol. 

“Mae pobl yn meddwl bod anghenion dysgu gen i ond does dim - mae’n rhaid i fi weithio’n galed i brofi pobl yn anghywir. 

Image
Ciaran
Mae Ciaran yn byw gyda pharlys yr ymennydd

“Dwi’n uniaethu gyda’r model cymdeithasol o anabledd - nad ydw i’n cael fy anableddu gan y cyflwr penodol, ond y rhwystrau sy’n bodoli o fewn cymdeithas.”, meddai. 

Yn ôl astudiaeth gan Brifysgol Loughborough am dueddiadau pobl anabl mewn chwaraeon, dydy mynediad at weithgareddau ddim yn gyfartal, gan fod “rhwystrau sylweddol” yn atal cyfranogiad. 

Roedd Cerys wedi dechrau mynd i glwb pêl-droed Bravehearts ar ôl gweld ei brawd yn mwynhau’r sesiynau ymarfer a’r twrnamaint. 

I Cerys a’i brawd, mae’r clwb yn fwy na rhywle i fynd i chwarae pêl-droed, mae’n gyfle iddyn nhw deimlo’n ddiogel.

Image
Cerys a'i brawd
Cerys a'i brawd

“Mae grwpiau fel hyn yn dda i bobl anabl oherwydd eu bod nhw’n gallu cwrdd â phobl sydd mewn sefyllfa debyg a dy’n nhw ddim ar ben ei hunain.”

Mae aelodau’r clwb yn rhannu’r teimlad fod Bravehearts yn fwy na chlwb pêl-droed. 

Dywedodd Ffion bod Bravehearts yn dîm ond hefyd yn ‘deulu camweithredol mawr’. 

Gwyliwch y rhaglen yn llawn ar YouTube Hansh:  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.