Newyddion S4C

Y meddyg a'r darlledwr Michael Mosley ar goll yng Ngwlad Groeg

06/06/2024
Dr Michael Moseley

Mae'r meddyg a'r darlledwr Michael Mosley wedi mynd ar goll ar ynys yng Ngwlad Groeg.

Daeth cadarnhad ddydd Iau bod Dr Mosley wedi mynd ar goll wrth ymweld ag ynys Symi, lle'r oedd ar ei wyliau ar y pryd.

Mae tîm chwilio ac achub yn teithio i’r ynys o Athens i gynorthwyo gyda’r ymdrechion i ddod o hyd iddo.

Mewn neges gan grŵp lleol yn Symi ar Facebook, dywedwyd ei fod wedi mynd am dro am 13.30 ddydd Mercher, ond nid oedd wedi dychwelyd i’w westy.

“Mae ei ffrindiau yn poeni gan ei fod yn chwech awr ers iddyn nhw ei weld.

“Ei enw yw Dr Mike Mosley ac mae’n wyneb adnabyddus i lawer o bobl o Brydain” meddai'r neges.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: “Rydym yn cefnogi teulu dyn o Brydain sydd ar goll yng Ngwlad Groeg ac rydym mewn cysylltiad â’r awdurdodau lleol."

Mae Dr Mosley yn adnabyddus i wylwyr The One Show a This Morning am rannu cyngor ar sut i gadw’n iach ac yn heini.

Mae hefyd wedi ymddangos yn y gyfres BBC, Trust Me, I’m a Doctor ac ar y podlediad, Just One Thing.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.