Clod i'r pysgod: Crys 'gôl-kipper' clwb pêl-droed o'r de yn bachu sylw
Mae CPD Llanilltud Fawr wedi lansio eu cit golgeidwad ar gyfer y tymor newydd – gan barhau gyda thema o ddathlu pysgod a sglodion.
Mae’r clwb, sydd yn cystadlu yng Nghynghrair De Cymru, wedi cyhoeddi’r cit sydd â delwedd o bysgodyn, a sglodion ar hyd y crys a'r siorts.
Yn cwblhau’r cit hynod drawiadol, mae pâr o sannau streipiog sydd ddim yn cydweddu, mewn glas a phinc.
Mae’r cit yn esblygiad ar thema pysgod a sglodion, wedi i’w cit yn y tymor 2022/23 ddenu sylw rhyngwladol.
Roedd y cit glas a melyn wedi ei ysbrydoli gan un o glybiau mwyaf Yr Ariannin, sef Boca Juniors, a hefyd yn cynnwys y gair, ‘Sglodion’, ar ei flaen.
Dywedodd Ben Dudley, rheolwr cyfryngau cymdeithasol y clwb: “Nes i just feddwl, da ni’n las a melyn, fi sydd yn gyfrifol am y cit. ‘Da ni’n cael cit Boca Juniors.
“O’n i'n gwybod y byddai pobl yn ei hoffi, ond wnaeth e chwythu popeth oedden ni wedi ei ddychmygu mas o’r dŵr. Ar un achlysur, roedden ni wedi gwerthu mwy o gitiau na Chaerdydd. Fe wnaethon ni anfon miloedd ohonyn nhw i’r Ariannin.”
Mae’r clwb yn adnabyddus am ei gitiau anarferol.
Inline Tweet: https://twitter.com/sgorio/status/1760000474978365628
Wrth gystadlu yng nghystadleuaeth Ewrop Cwpan Fenix y tymor diwethaf, fe wnaethon nhw chwarae mewn cit oedd yn dangos deinasor yn gyrru lorri.
Roedd y cit wedi ei ysbrydoli gan un o hen gitiau Boca Juniors, ac yn cynnwys deinsor, gan fod gweddillion y creaduriaid wedi eu canfod yn y dref.