Y Ceidwadwyr wedi derbyn rhagor o arian gan ddyn a ddywedodd y ‘dylid saethu’ gwleidydd
Mae’r Blaid Geidwadol wedi derbyn rhagor o arian gan ddyn a ddywedodd y dylai’r gwleidydd Diane Abbott “gael ei saethu”.
Roedd data'r Comisiwn Etholiadol a gyhoeddwyd ddydd Iau yn dangos taliad o £5m gan gwmni meddalwedd Frank Hester, Phoenix Partnership, ym mis Ionawr.
Rhoddodd £10 miliwn i’r Torïaid y llynedd hefyd, gan olygu mai ef yw rhoddwr mwyaf y blaid.
Adroddwyd ym mis Mawrth bod Mr Hester wedi dweud bod Ms Abbott - y ddynes ddu gyntaf i'w hethol i'r Senedd ym 1987 - wedi gwneud iddo fod eisiau “casáu pob menyw ddu” ac y “dylid ei saethu”.
Dywedodd Diane Abbott fod penderfyniad y Ceidwadwyr i dderbyn £5 miliwn arall gan Frank Hester yn “sarhad” arni “a phob dynes ddu”.
Inline Tweet: https://twitter.com/HackneyAbbott/status/1798612477925859555
Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Mel Stride o’r Blaid Geidwadol, wrth Good Morning Britain ar ITV bod “unrhyw sylw hiliol yn gwbl annerbyniol”.
“Rwy’n credu fod Mr Hester wedi edifarhau ers gwneud y sylwadau hynny, a oedd yn gwbl annerbyniol," meddai.
“Rydw i’n cymryd balchder personol mawr yn y ffaith fy mod wedi eistedd o amgylch bwrdd cabinet sydd fwyaf amrywiol yn ein hanes.
“Mae gyda ni Brif Weinidog Prydeinig-Asiaidd yr oeddwn i wedi ei gefnogi yn ystod ei ymgyrch arweinyddol.
“Felly dyna’r safbwynt clir iawn sydd gen i ac sydd gan y Blaid Geidwadol ar y pwnc.”
Pan ofynnwyd iddo a ddylai’r Ceidwadwyr ddychwelyd y rhoddion a wnaed gan Frank Hester, dywedodd Mr Stride: “Dydw i ddim yn mynd i gael fy nhynnu yn y math yna o faterion.”