Rhybudd i bobl Llanberis wedi i ladron dorri i mewn i sawl adeilad
Mae swyddogion yr heddlu wedi rhybuddio pobl Llanberis i fod yn “wyliadwrus” wedi i ladron dorri i mewn i sawl adeilad yn yr ardal.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi cynyddu nifer y swyddogion sy’n bresennol ar y strydoedd yn y dref wrth droed yr Wyddfa a'r cyffiniau wedi iddyn nhw gael gwybod am dair achos o ladrata ar wahân yn ystod yr wythnos diwethaf.
Dros nos rhwng 29 a 30 Mai, fe gafodd y llu adroddiad am ymgais i ddwyn o eiddo ar y stryd fawr yn Neiniolen.
Fe dderbyniodd y llu adroddiad bellach ynglŷn â byrgleriaeth mewn busnes ar Ffordd Yr Orsaf yn Llanberis ar 3 Mehefin. Y gred yw bod lladron wedi bod yn bresennol yno rhwng 2.30 a 3.30 yn oriau mân y bore.
Cafodd dyn a dynes eu gweld yn yr ardal yn cario trosol (crowbar), cyn iddyn nhw adael mewn cerbyd.
Cafodd dau feic mynydd eu dwyn rhwng 3 a 4 Mehefin o eiddo yn ardal Fron Goch, Llanberis.
Wrth ymateb i’r digwyddiadau, dywedodd Andy Davies o Heddlu Gogledd Cymru ei fod yn “annog y gymuned leol i fod yn wyliadwrus am weithgaredd amheus” yn yr ardal.
“Rydym yn cynyddu’r nifer o swyddogion ar strydoedd Llanberis a’r cyffiniau gyda’r nos a thros nos er mwyn ceisio atal unrhyw ddigwyddiadau pellach," meddai.
“Rhowch wybod i'r heddlu am unrhyw ymddygiad amheus."
Mae’r heddlu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglŷn â’r digwyddiadau rheiny i gysylltu gyda’r heddlu gan ddyfynnu’r cyfeirnodau 24000484966 am yr achos yn Neiniolen, 24000494986 am yr achos ar Ffordd Yr Orsaf, a 24000497959 am yr achos yn ardal Fron Goch.