
Siom preswylwyr ar ôl bil £20,000 i adfer problemau cladin ar fflatiau

Mae perchnogion fflatiau mewn datblygiad yng Nghaerdydd wedi derbyn bil am dros £20,000 yr un i drwsio cladin yn ogystal â diffygion diogelwch eraill ar yr adeilad.
Dywedodd llawer sy'n byw yn natblygiad Sealock Warehouse yng nghanol y ddinas na allant fforddio talu am y gwaith.
Helpodd Barrie James ei fab gyda blaendal i brynu fflat a dywedodd wrth ITV News fod y newyddion wedi bod yn “sioc lwyr” iddyn nhw.
Mae ffocws craff wedi bod ar y mater o gladin a diogelwch tân ers tân tŵr Grenfell yn 2017.
Ers hynny, mae wedi dod i'r amlwg bod tua thraean o adeiladau uchel Cymru, sydd dros 18 metr o daldra, angen rhyw fath o waith i gywiro problemau.
'Dim mwy i'w roi'
Dywedodd Barrie wrth ITV News bod ganddo "ddim mwy o arian i'w roi".
“Does dim gwarant gyfochrog yn yr eiddo, gan iddo symud mewn yn 2018. Felly nid oes ganddo fe, fel cymaint o bobl eraill yma yn Sealock, unrhyw arian i fuddsoddi ynddo a dydyn nhw heb gael unrhyw help.
"Mae Llywodraeth Cymru bach yn aneglur o'r safbwynt achos maen nhw'n dweud y byddan nhw'n rhoi cronfa, a bydd e’n fwy nag yr un yn Lloegr - ond dydyn nhw heb gyflwyno fe eto".
Roedd cartref John Humphrey ar werth cyn derbyn hysbysiad yn gynharach fis yma yn dweud bod angen gwaith ar y safle.
Mae John yn honni bod y mater wedi gwneud gwerthu ei fflat yn amhosib: "Mae'r fflat ar y farchnad i'w werthu.
"Fe wnaeth hyn atal popeth ac mae'r goblygiadau ariannol yn mynd i fod yn ddinistriol".

Mae taldra’r datblygiad yn amrywio rhwng 11-18 metr. Mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig gynllun i helpu preswylwyr adeiladau sy'n dalach na 18 metr ac sy'n cael problemau gyda chladin diffygiol yn Lloegr.
Dywedodd John a Barrie eu bod yn poeni y bydd gan unrhyw gynllun Cymreig reolau tebyg, sy'n golygu na fydd modd iddynt hawlio cymorth ariannol.
Cafodd y diffygion yn Sealock Warehouse eu darganfod yn ystod asesiad risg tân blynyddol sydd, yn ôl y cwmni rheoli, yn angenrheidiol i’w gynnal.
Mae arolygiadau fel hyn wedi mynd yn fwy trylwyr o ganlyniad i argymhellion y diwydiant.
'Cyfrifoldeb hollbwysig'
Mewn datganiad, dywedodd Scanlan wrth ITV News fod ganddynt “gyfrifoldeb hollbwysig” i ddiogelu’r adeilad.
"Mae diffygion cladin a materion yn ymwneud â drysau tân mewnol ac ati wedi'u nodi yn yr arolygiad diweddaraf. Fel yr asiant rheoli, mae gennym gyfrifoldeb hollbwysig i wneud yr adeilad yn ddiogel ac rydym wedi cyflogi syrfëwr adeilad i ganfod prisiau cystadleuol gan gontractwyr trydydd parti ar gyfer y gwaith adfer angenrheidiol.
"Yn anffodus, nid oes unrhyw warantau adeiladu na datblygwyr trydydd parti i gwrso ar gyfer y gwaith adfer, ac nid oes unrhyw sail gyfreithiol o dan delerau’r brydles i adennill arian o’r rhydd-ddeiliad".
Ychwanegodd y cwmni nad oes ganddynt "ddewis arall" heb ymyrraeth y llywodraeth, ond gofyn i'r preswylwyr i dalu.
"Nid ydym eisiau bod yn y sefyllfa hon ac mae gennym gydymdeimlad llwyr â'r holl breswylwyr. Rydym ni'n rhannu eu pryderon".
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i greu cronfa ddiogelwch ond rydym wedi bod yn glir ein bod am fynd y tu hwnt i adfer cladin.
"Rydym eisoes wedi ymrwymo £32 miliwn ar gyfer diogelwch adeiladau yn 2021-22 ac rydym yn bwriadu gwneud cyhoeddiad yn fuan.
"Mae'n parhau i fod yn aneglur pa gyllid y gallai Cymru ei dderbyn o ganlyniad i wariant yn Lloegr - ein disgwyliadau o hyd yw y dylai Cymru dderbyn ei chyfran deg".