Newyddion S4C

Corgwn Penfro yn serennu ar gyfres o stampiau newydd

06/06/2024
Stampiau'r Post Brenhinol

Mae Corgwn Penfro yn serennu ar gyfres o stampiau newydd gan y Post Brenhinol sy’n cynnwys rhai o hoff fridiau cŵn y genedl. 

Mae'r Dalmation, Pug, Jack Russell, Labrador Retriever, Border Collie, Chwippet, Husky Siberia, Chihuahua, a Cocker Spaniel hefyd ymhlith yr anifeiliaid annwyl sydd yn ymddangos ar y stampiau, a fydd ar gael i'w prynu ddydd Iau. 

Daw wrth i’r Post Brenhinol ddathlu’r ffaith mai cŵn yw’r anifail anwes mwyaf poblogaidd ledled y byd, gyda thraean o aelwydydd y DU yn berchen ar gi. 

Fe fyddan nhw'n cynnal wythnos o godi ymwybyddiaeth ar gyfer cŵn yn ystod wythnos gyntaf fis Gorffennaf. 

Image
Stampiau'r Post Brenhinol

Dywedodd cyfarwyddwr materion allanol a pholisi’r Post Brenhinol, David Gold bod pobl y Deyrnas Unedig yn enwog am eu cariad tuag at anifeiliaid, “yn enwedig cŵn,” meddai. 

“’Dyn ni’n gobeithio y bydd y stampiau hardd yma yn dod â rhagor o lawenydd i bobl pan fydd llythyrau a chardiau yn cael eu gollwng drwy eu blychau post – ac yn atgoffa ein cwsmeriaid i osod eu ci annwyl mewn ystafell arall wrth agor y drws i'w ‘postie’,” meddai. 

Fe gafodd y stampiau eu creu ar y cyd gyda Tamsin Pickeral, sef arbenigwr ar anifeiliaid ac awdur y llyfr The Dog: 5,000 Years Of The Dog in Art and The Spirit of the Dog.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.