Newyddion S4C

‘The little Welsh girl’: Y ferch o Fangor fu'n helpu Churchill ac Eisenhower yn ystod paratoadau D-Day

06/06/2024
Dorothy Dickie

Mae dynes o Fangor sydd yn 101 mlwydd oed wedi rhannu ei phrofiadau o weithio gyda Churchill ac Eisenhower yn y misoedd o baratoi ar gyfer D-Day.

Roedd Dorothy Dickie, sydd yn wreiddiol o Fangor ac sydd bellach yn byw mewn cartref preswyl yn y Felinheli, yn aelod o Lynges Frenhinol y Merched (WRENs) yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Wrth i’r byd nodi 80 mlynedd ers y diwrnod tyngedfennol hwnnw ar 6 Mehefin 1944, mae Ms Dickie wedi rhannu ei phrofiadau gyda Newyddion S4C.

Dywedodd Dorothy Dickie: “Roedd Eisenhower yn fy hoffi i am fy mod i hefo ffordd wahanol i’r merched Saesneg eraill.

“Roedd o’n fy ngalw i’n 'that little Welsh girl'.”

Yn y misoedd cyn D-Day, roedd Winston Churchill yn cael cwmni arweinydd milwrol y Cynghreiriad, Dwight D Eisenhower, a fyddai un dydd yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Yno hefyd yn Southwick House, ger Portsmouth oedd yr arweinydd milwrol Bernard ‘Monty’ Montgomery.

Daeth yr adeilad yn bencadlys i’r Cynghreiriaid, wrth iddyn nhw gynllunio i agor ffrynt gorllewinol y rhyfel ar gyfandir Ewrop yn erbyn y Natsïaid.

A dyma lle y gwnaeth Eisenhower y penderfyniad hanesyddol i yrru tri miliwn o ddynion a 2,727 o longau i lannau Normandi gyfer Operation Overlord, y cyrch morwrol mwyaf erioed.

Image
Dorothy yn ystod ei chyfnod yn gweithio i Wre
Dorothy yn ystod ei chyfnod yn gweithio i Lynges Frenhinol y Merched, neu'r Wrens

Ymuno â’r rhyfel

Ar ôl cael ei magu ym Mangor a gorffen astudio yn Ysgol Gramadeg Merched Bangor, fe ymunodd Dorothy Dean, fel yr adnabyddid hi ar y pryd, yn 18 oed gyda'r fyddin.

Yn ystod y rhyfel, roedd wedi derbyn hyfforddiant mewn trosglwyddo signalau ar yr HMS Mercury yn Hampshire, cyn gwasanaethu gyda llong HMS Vectis ar Ynys Wyth.

Yn 1944, roedd yn Southwick House ger Portsmouth, er mwyn trosglwyddo signalau i HMS Dryad.

Rôl y Wrens yn Southwick House oedd diweddaru map enfawr o Fôr Udd (English Channel) ac arfordir de Lloegr a gogledd Ffrainc, drwy symud lleoliadau modelau llongau drwy’r dydd a'r nos.

Roedd Ms Dickie yn cario negeseuon, ac ambell i gwpanaid o de i Winston Churchill, Prif Weinidog y DU ar y pryd, ac Eisenhower.

Dywedodd fod Eisenhower wedi rhoi llysenw newydd iddi hi.

“Roedd o’n dweud, ‘where’s that little Welsh girl’, dwi’n meddwl oherwydd roeddwn i’n siarad cryn dipyn.

“Ro’n i’n fyr, gyda gwallt tywyll ac yn edrych ac yn swnio yn wahanol iawn i’r merched eraill oedd yn gweithio yno.

“Ro’n i’n gweithio yn y Map Room, ac roedd yn rhaid i ni roi’r signalau cywir ar y mapiau mawr. Roedden ni’n gwthio’r llongau gyda ffyn hir.

“Ond un peth chefais i byth y cyfle i wneud oedd mynd ar yr ystol i newid y map. Dwi’n meddwl efallai achos fy mod i’n fyr.

“Roedden ni’n chwarae cerddoriaeth drwy’r nos, wrth i ni weithio, er mwyn trio ein cadw ni yn effro.

“Doedd Eisenhower ddim yn ddyn tal ofnadwy, ond yn dalach na Churchill - roedd o’n fwy plwmp.”

Image
Winsto Churchill a Dwight D Eisenhower yn ymweld â lluoedd y Cynghreiriaid yn 1944
Winston Churchill a Dwight D. Eisenhower yn ymweld â lluoedd y Cynghreiriaid yn 1944 (Llun: Imperial War Museum)

Tyst i fomio’r Natsïaid

Roedd eu lleoliad yn agos i’r Môr Udd, oedd yn gwahanu Lloegr a Ffrainc, yn galluogi’r Wrens i edrych drosodd a gweld bomiau yn ffrwydro yn Ffrainc.

Ac ar un noson dywyll, gyda’r goleuadau wedi eu diffodd ar gyfer y blackout, fe wnaeth Ms Dickie rybuddio rhai o’i chyd-weithwyr fod ymosodiad arall ar droed gan y Natsïaid.

Image
Southwick House
Daeth Southwick House ger Portsmouth yn bencadlys i luoedd y Cynghreiriaid yn y misoedd yn arwain at D-Day (Llun: Amber Kincaid/Wikimedia)

“Roeddech chi’n gallu gweld y Channel o Southwick, ond doedd y goleuadau ddim ymlaen gennym ni. Ond roedd yn rhaid i ni wylio allan am oleuadau yn pefrio yn y pellter.

“Un tro, fe welais i oleuadau, ac fe wnaethon nhw ddweud ‘ti wastad yn gweld y goleuadau'. 

"Dywedais eto ‘dwi’n gweld y goleuadau a dw i ddim yn meddwl y bydd hi’n hir nes bod nhw’n cychwyn bomio yno unwaith eto, ar y tir yn Ffrainc'. A dyna ddigwyddodd, yng nghanol y nos.

“Nes i ddweud mewn ffordd tynnu coes, ‘dy’n nhw ddim yn gwrando ar y ‘little Welsh girl’!’ Roedd gen i olwg da adeg yna, mae’n debyg!”

Image
Dorothy ac Andrew Dickie
Dorothy Dickie a'i mab, Andrew, yn 2021 (Llun: RAYC/Ian Bradley)

‘Balch iawn’

Ar ôl y rhyfel, fe briododd Dorothy â Jack Dickie, oedd yn rhedeg iard gychod Dickie’s ym Mangor, yn Eglwys Gadeiriol y ddinas, yn 1947.

Cafodd y ddau dau o blant, ac fe weithiodd Dorothy ar yr iard am flynyddoedd lawer.

Fe symudodd y teulu i Fiwmares yn 1962, ble fuodd hi yn byw yno nes iddi symud i fyw i gartref preswyl rhai blynyddoedd yn ôl.

Dywedodd ei mab, Andrew wrth Newyddion S4C: “Rydw i a’r teulu cyfan yn hynod o falch o be wnaeth mam dros 80 mlynedd yn ôl. Roedd fy nhad yn Dunkirk bedair blynedd cyn hynny hefyd.

“Dwi i’n meddwl ei bod hi’n edrych yn ôl ar yr holl beth gyda balchder, ond hefyd yn cydnabod aberth y bobl druan o bob ochr na ddaeth yn ôl adref.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.