Newyddion S4C

Gofal brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd 'yn gwella'

06/06/2024
ysbyty athrofaol caerdydd

Mae gofal brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd 'yn gwella' yn ôl adroddiad newydd. 

Cyhoeddodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru adroddiad ddydd Iau sy'n nodi 'gwelliannau' yn Adran Achosion Brys yr ysbyty, sy'n cael ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. 

Mae'r adroddiad yn nodi ei fod yn 'gadarnhaol' gweld nifer o welliannau ers eu hadolygiad blaenorol ym mis Mehefin 2022, ond roedd rhai meysydd angen 'sylw a gwella o hyd'.

Pan gwnaeth arolygwyr gyrraedd yr adran mewn adolygiad dirybudd am dri diwrnod yn olynol ym mis Mawrth eleni, roedd yr adran yn y categori uchaf o ran lefel rhybudd yn sgil y galw oedd arni. 

Er bod yr adran yn brysur iawn, nid oedd 'ymdeimlad o gynnwrf' yno ac roedd y staff a'r rheolwyr yn ymwybodol o'r sefyllfa gyda 'chamau priodol' wedi'u cymryd mewn ymateb i'r lefel rhybudd. 

Ychwanegodd yr adroddiad fod staff wedi eu hymrwymo i ddarparu gofal o safon uchel i gleifion ac yn ymddwyn mewn ffordd 'barchus a chyfeillgar'. 

Dywedodd cleifion wrth yr arolygwyr eu bod yn hapus â'r gofal a bod eu 'preifatrwydd a'u hurddas yn cael eu diogelu'.

Image
Ysbyty Athrofaol Caerdydd
Ysbyty Athrofaol Caerdydd

'Testun pryder'

Mae'r adroddiad yn nodi hefyd fod y Gymraeg yn cael ei hyrwyddo'n dda yn yr adran ond nid oedd proses cwynion a phryderon GIG Cymru 'Gweithio i Wella' yn cael ei harddangos yn amlwg ymhob rhan o'r uned. 

Tynnodd yr adolygiad blaenorol sylw at yr angen i wella trefniadau atal a rheoli heintiau, ac roedd hyn wedi gwella yn yr arolygiad diweddaraf. 

Ond mae'r adroddiad yn nodi eu bod wedi cyhoeddi hysbysiad sicrwydd ar unwaith am nad oedd tymheredd meddyginiaethau a'u dyddiadau dirwyn i ben yn cael eu gwirio'n gyson. 

Yn ôl arolygwyr, roedd yn 'destun pryder' nad oedd staff yn teimlo fod y cyfarpar priodol ar gael yn hawdd iddynt. 

Ond ychwanegodd yr adroddiad ei fod yn 'gadarnhaol' gweld bod aelodau newydd o staff wedi cael eu recriwtio i rolau hanfodol ers yr adolygiad blaenorol. 

Dywedodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Alun Jones: "Mae pwysau cynyddol ar wasanaethau'r GIG ac mae Ysbyty Athrofaol Cymru, fel pob ysbyty, yn parhau i wynebu heriau eithriadol oherwydd galw cynyddol. 

"Roedd yn galonogol gweld tystiolaeth bod y bwrdd iechyd wedi dechrau rhoi systemau a phrosesau ar waith i fynd i'r afael â'r meysydd i'w gwella a nodwyd yn ystod ein harolygiad blaenorol ym mis Mehefin 2022. Mae rhai pryderon y mae angen mynd i'r afael â nhw o hyd er mwyn sicrhau bod ansawdd y gofal a ddarperir yn parhau i wella. 

"Byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r bwrdd iechyd er mwyn sicrhau y gwneir cynnydd amserol yn erbyn ein canfyddiadau."

'Calanogol'

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro eu bod yn "croesawu'r adborth" a bod staff yno wedi gweithio'n "ddiflino" yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf i drawsnewid yr amgylchedd i'r rheiny sydd angen gofal brys.

Mae'r gwaith trawsnewid wedi cynnwys lleihau amseroedd aros ar gyfer cleifion priodol, yn ogystal â gwaith parhaus i leihau oedi wrth eu trosglwyddo o ambiwlansys, meddai. 

“Er ein bod yn cydnabod nad yw safon y gofal bob amser ar y lefel yr hoffem, oherwydd pwysau sylweddol a pharhaus sy’n wynebu’r GIG ledled Cymru, mae’n galonogol gweld bod yr Arolygiaeth yn teimlo bod y gwelliannau a wnaed yn cael effaith ystyrlon ar gleifion a chydweithwyr o fewn yr adran," medden nhw.

"Rydym hefyd yn cydnabod yr angen am welliant parhaus o fewn yr Uned Achosion Brys, i sicrhau ein bod yn parhau i adeiladu ar y gwaith a wnaed hyd yma i ddarparu gofal diogel, o ansawdd ac effeithiol i gleifion."

Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hefyd am atgoffa pobl bod gwasanaethau gofal brys a gofal mewn argyfwng yn parhau i fod dan bwysau, gan annog unigolion i'w defnyddio'n "effeithiol" a "manteisio ar y dewisiadau eraill yn lle mynychu’r Uned Achosion Brys lle bo modd".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.