Gareth Thomas yn diolch i nyrsus am godi ymwybyddiaeth o HIV
Mae'r cyn chwaraewr rygbi Gareth Thomas wedi diolch i nyrsus am gefnogi ei ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o HIV.
Wrth annerch cynghres flynyddol y Coleg Nyrsio Brenhinol, talodd Mr Thomas deyrnged arbennig i nyrsus yng Ngholeg Brenhinol Caerdydd am eu cefnogaeth iddo.
"Roeddwn i fel darnau o jigso - dros bob man - ond fe wnaeth un nyrs yn arbennig helpu fi i ddod o hyd i'r corneli ac yna'r darnau eraill er mwyn i fi allu byw fy mywyd," meddai.
Enillodd Gareth Thomas 100 o gapiau i Gymru. Yn 2009, dywedodd yn gyhoeddus ei fod yn hoyw, ac yn 2014, cyhoeddodd fod ganddo gyflwr HIV.
Ers hynny, mae wedi cynnal ymgyrch o'r enw "Tackle UK" i godi ymwybyddiaeth am y cyflwr.
Cafodd gymeradwyaeth wresog gan y gynulleidfa yn y gynhadledd yng Nghasnewydd wedi ei araith am bwysigrwydd addysgu pobl am HIV.
"Mae pobl yn wirioneddol ofnus o'r pwnc yma o hyd," meddai. "Mae yna gymaint o bobl sydd dal heb unrhyw wybodaeth am HIV."