Newyddion S4C

Nifer y myfyrwyr sy’n astudio rhan o’u cwrs meddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg wedi cynyddu

Newyddion S4C 04/06/2024

Nifer y myfyrwyr sy’n astudio rhan o’u cwrs meddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg wedi cynyddu

Yn ôl gwaith ymchwil gan y Coleg Cymraeg, mae yna gynnydd sylweddol yn nifer y myfrwyr meddygaeth yng Nghymru sy’n astudio rhan o’u cwrs yn y Gymraeg.

Fe gafodd cynllun ‘Doctoriaid Yfory’ ei sefydlu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2017 er mwyn ceisio hybu’r niferoedd rheini.

Un o’r rheini sydd wedi elwa yw Elin Bartlett (uchod), sydd yn ei phedwaredd blwyddyn yn astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Dechreuodd ar y cynllun pan oedd hi’n 16 oed.

“Dwi’m yn meddwl bod pobl wir yn gwerthfawrogi faint mae hi’n gymryd i gyrraedd y brifysgol yn y lle cyntaf,” meddai.

“Fyswn i wir heb allu ymgeisio am y brifysgol heb gynllun Doctoriaid Yfory, yn enwedig yng Nghymru. 

“Oedd o wir mor gefnogol, oeddech chi’n dod i adnabod pobl eraill oedd yn ymgeisio ond hefyd darlithwyr a ‘dan ni dal mewn cysylltiad hefo hyd heddiw.”

Mae’r cynllun yn cynnig cyngor ar ddewis pynciau a chymorth gyda datganiadau personol a chyfweliadau.

I Elin roedd gallu gwneud cysylltiad buan gyda mentoriaid a darlithwyr yn bwysig wrth iddi wneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

“’Dan ni’n gorfod gwneud penderfyniadau mor ifanc,” meddai.

“Mae cynlluniau fel Doctoriaid Yfory wir yn rhoi blas i bobl ifanc o be mae’r yrfa yn cynnwys a’r gwahanol gyfleoedd sydd ar gael, yn enwedig i rywun fel fi sy’n dod o deulu lle does neb yn gweithio yn y maes.”

‘Disgwyliadau’

Cafodd y cynllun ‘Doctoriaid Yfory’ ei sefydlu ym Mhrifysgol Caerdydd yn wreiddiol, ac erbyn hyn mae’r cynllun wedi ehangu i gydweithio gyda phrifysgolion Abertawe a Bangor.

Yn ôl Yr Athro Rhian Goodfellow, Cyfarwyddwr Rhaglen Feddygol C21 ym Mhrifysgol Caerdydd:

“Mae ishe denu mwy o fyfyrwyr o Gymru i geisio astudio meddygaeth ac  mae’r cynllun yma wedi agor y drws i hynny. 

“Pan maen nhw’n ymuno hefo’r cynllun, maen nhw’n cael gweld beth yw bod yn feddyg, gwybod beth yw’r disgwyliadau, pa bynciau i astudio fel lefel A, a hefyd dod i’r brifysgol i gael gweld beth mae’n myfyrwyr ni’n gwneud.”

Mae data sy’n mesur llwyddiant y cynllun yn dangos bod nifer y myfywyr sy’n dewis astudio rhan o’u cwrs Meddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg wedi cynyddu ers ei sefydlu. 

Rhwng 2017 a 2022 roedd nifer y rhai oedd wedi dewis astudio 40 credyd o’r cwrs wedi cynyddu o 20 i 105 a’r rhai oedd wedi dewis astudio o leiaf bump credyd wedi codi o 70 i 125.

Mae  nifer y myfyrwyr o ysgolion Cymraeg a dwyieithog sydd wedi derbyn lle i astudio mewn Ysgol Feddygaeth yn un o brifysgolion Cymru hefyd wedi cynyddu ers sefydlu’r cynllun – gyda chanran y rhai sy’n cael eu derbyn ar y cyrsiau wedi cynyddu 25% rhwng 2017 a 2022.

Image
Gwenllian Owen
Gwenllian Owen

‘Ymestyn’

Erbyn hyn, mae’r llwyddiant wedi arwain at sefydlu cynllun newydd i gynyddu’r ddarpariaeth ddwyieithog mewn swyddi eraill ym maes iechyd a gofal. 

Gweithwyr Iechyd Yfory ydi enw’r cynllun sydd yn mentora myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg i ymgeisio am le ar y cyrsiau mwyaf cystadleuol yn y maes iechyd a gofal.

Mi fydd y cynllun newydd yn cynnwys nifer o bynciau fel Ffisiotherapi, Bydwreigiaeth, Fferylliaeth a Therapi Iaith a Lleferydd.

Dywedodd Dr Gwenllian Owen, Uwch Reolwr Addysg Uwch, Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

 Ni’n gwybod bod heriau yn wynebu y sector iechyd o ran recriwtio a chadw staff felly ni’n falch iawn bod ni’n gallu cyfrannu at geisio gwyrdroi hynny trwy ddenu rhagor o siaradwyr Cymraeg at gyrsiau meddygol. 

“Felly ni’n ymestyn y cynllun eleni i gynnwys meysydd eraill fel ffisiotherapi a fferylliaeth.

“Dan ni’n dilyn y myfyrwyr sydd wedi bod yn rhan o’r cynllun ar y cwrs a hefyd tu hwnt yn y byd gwaith felly ma’n nhw yn teimlo yn rhan o gymuned ac yn barod iawn i roi yn ôl at y cynllun fel mentoriaid felly ’dan ni’n hyderus bod y cynllun wedi cyfrannu at y llwyddiant o ran cynnydd y niferoedd.”

‘Hybu’

Fel un sydd yn astudio i ddilyn gyrfa yn y maes, mae Elin yn croesawu’r datblygiad.

“Mae meddygaeth yn angenrheidiol i gael tim o’ch cwmpas,” meddai.

“Does yr un gweithiwr iechyd yn gallu gweithio heb y llall felly mae mor bwysig bod y cynllun hwn yn ehangu er mwyn pwysleisio’r ffaith bod pawb yn gweithio fel tim.”

Yn ôl Elin, nid y myfyrwyr eu hunain sydd ar eu hennill ond mae gallu darparu gwasanaeth yn y Gymraeg hefyd yn bwysig i gleifion.

“Mae’n bwysig i ni ddefnyddio’r Gymraeg, ond yn fwy na dim mae’n bwysig i’n cleifion ni achos mae gan bawb yr hawl i dderbyn gofal iechyd yn eu hiaith gyntaf. 

“Mae’n bwysig i ni fel myfyrwyr a hefyd meddygon a phob gweithiwr iechyd allu cynnig y gofal yna iddyn nhw drwy’r Gymraeg felly mae cael cynllun fel yma sy’n hybu’r iaith o fewn y maes yma yn hollol angenrheidiol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.