Newyddion S4C

Taflu ysgytlaeth dros ben Nigel Farage wrth iddo lansio ymgyrch Reform

04/06/2024
Nigel Farage

Cafodd diod ei daflu dros ben y gwleidydd Nigel Farage wedi iddo lansio ei ymgyrch etholiadol ddydd Mawrth. 

Roedd arweinydd newydd y blaid Reform UK yn gadael tafarn Wetherspoons, o'r enw Moon and Starfish, yn Clacton, Essex, pan wnaeth dynes ifanc taflu ei diod drosto cyn taflu ei chwpan ato a cherdded i ffwrdd. 

Ymddengys mai ysgytlaeth o gadwyn fwyd McDonald’s oedd y diod.

Dywedodd Heddlu Essex bod dynes 25 oed wedi cael ei harestio ar amheuaeth o ymosod.

Fe ddaw wedi i Mr Farage lansio ei ymgyrch etholiadol ychydig o oriau yn gynharach, a hynny wedi iddo gyhoeddi mai ef yw arweinydd newydd ar blaid Reform UK ddydd Llun.

Image
Nigel Farage
Llun gan PA

Wrth siarad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd cyn-arweinydd y blaid, Richard Tice y byddai’r unigolyn a wnaeth taflu ei diod dros Mr Farage wedi helpu’r blaid ennill “cannoedd ar filoedd o bleidleisiau.”

“Ni fyddwn yn cael ein bwlio na’n bygwth oddi ar yr ymgyrch etholiadol,” meddai.

Nid dyma yw’r tro gyntaf i Mr Farage gael ei orchuddio gan ysgytlaeth wedi i ddyn o’r enw Paul Crowther daflu diod drosto yn 2019. Cafodd ei arestio ac fe blediodd yn euog i ymosod ac achosi difrod troseddol. 

Roedd hefyd rhaid iddo dalu £350 o iawndal i Mr Farage er mwyn iddo lanhau ei siwt ar ôl yr ymosodiad.

Prif lun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.