Newyddion S4C

Perchnogion siop yn cael eu camdrin am reolau Covid-19

Newyddion S4C 30/06/2021

Perchnogion siop yn cael eu camdrin am reolau Covid-19

Mae yna gynnydd yn y nifer o weithwyr mewn siopau a busnesau ar y stryd fawr sydd yn cael eu cam-drin gan gwsmeriaid ynghylch gorfod cadw at reolau Covid-19. 

Yn ôl Ffederasiwn y Busnesau Bach, mae tystiolaeth mewn sawl rhan o'r wlad yn dangos "fod staff wedi cael eu gwawdio" gan gwsmeriaid. 

Un perchennog busnes sydd wedi cael profiad o gamdriniaeth gan gwsmeriaid yw Sian Ellen Cowper, sydd yn rhedeg siop lyfrau Browsers ym Mhorthmadog. 

Yn ôl y perchennog, mae hi wedi derbyn "pob math o gamdriniaeth" ar ôl gofyn i gwsmeriaid ddilyn rheolau Covid-19. 

“Credwch neu beidio 'da ni'n gweld bod o leiaf 80% o bobl sy'n dod at y drws yn gorfod cael ei,  'da ni'n gorfod gofyn iddyn nhw lanhau eu dwylo,” dywedodd. 

“Mae gennyn ni stondin hylendid ar y drws, mae 'na ddau arwydd mawr coch yn deud wrth bobl cyn dod i mewn plîs newch chi gwisgo masg a saniteisio a chadw pellter cymdeithasol.

"Ond wedyn pan 'da ni'n gofyn iddyn nhw 'da ni'n cael lot o bobl yn fod yn amharchus ofnadwy ac yn flin ac yn gweiddi. 'Da ni 'di gael ein poeri ar unwaith hefyd, gan rywun sydd wedi cymryd 'offence' arnom ni'n gofyn.”

Mae Paula Lesley yn berchennog siop ym Mhorthmadog hefyd, ac mae hi’n deall y rhwystredigaeth o orfod atgoffa cwsmeriaid i ddilyn y canllawiau.

“Pan gafon ni'r gwyliau diwethaf, mi odd rhaid ni neud un aelod o staff yn sefyll wrth y drws yn deud, na 'da ni'n gadael wyth person, dau deulu i mewn ar y tro, ac mae rhaid i bawb clai eu dwylo," eglurodd perchennog Toys Bocs Teganau. 

"Ond ti'n colli un person wedyn wrth sefyll wrth ddrws i neud yn siŵr bod pawb yn dilyn y rheolau felly 'de.”

'Mae'n hollol siomedig'

Yn ôl Cadeirydd Polisi FSB Cymru Ben Francis, mae FSB Cymru wedi clywed enghreifftiau o agweddau o gam-drin gan gwsmeriaid tuag at staff.

Mae’n disgrifio’r digwyddiadau fel enghreifftiau ‘cwbwl annerbyniol’ o weithwyr yn cael eu cam-drin gan gwsmeriaid.

“Mae’n hollol siomedig," ychwanegodd. 

"‘Da ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i atgoffa pobl am bwysigrwydd rhoi cymorth i gymuned busnes Cymru.”

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud eu bod nhw’n ymwybodol o nifer o sefyllfaoedd dros yr wythnosau diwethaf lle dydi siopwyr heb fod yn cadw at y rheolau fel ymbellhau cymdeithasol na chwaith yn gwisgo mygydau.

Maen nhw’n dweud y bydden nhw’n cynnig mwy o gefnogaeth i fusnesau ac yn codi rhagor o arwyddion ym Mhorthmadog ac ar draws y sir i atgoffa pobl o’r rheolau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.