Newyddion S4C

Bangor: Pryderon y gallai agor bar newydd 'gynyddu'r risg' i drigolion y ddinas

04/06/2024
Clwb nos Bangor

Mae’r heddlu’n pryderu y gallai agor bar newydd yn ninas Bangor gynyddu’r “risg o farwolaeth neu anaf difrifol” yn yr ardal.

Cafodd pryderon Heddlu Gogledd Cymru eu cynnwys mewn adroddiad am drwydded safle ar gyfer The Vaults ar y Stryd Fawr.

Mae'r ymgeisydd, Jason Chinery, wedi gwneud cais i gael trwydded safle ar gyfer tafarn a bwyty.

Fel rhan o'r cais, mae Mr Chinery wedi gofyn am yr hawl i gael agor y busnes o 7.00 y bore tan 2.00 y bore bob dydd yn ogystal â gwerthu alcohol ar yr eiddo rhwng yr amseroedd hynny.

Mae hefyd yn gobeithio cael trwydded ar gyfer darparu cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth wedi'i recordio tan 02:00.

Ond er fod Mr Chinery wedi nodi mesurau i atal niwsans cyhoeddus ac i ddiogelu'r cyhoedd, mae'r heddlu yn pryderu y bydd yn denu torfeydd o bobl ar adegau anghymdeithasol.

'Risg'

Nododd adroddiad is-bwyllgor trwyddedu canolog fod yr Arolygydd Ian Roberts o Heddlu Gogledd Cymru “eisiau deall y rhesymeg dros agor am 7.00”.

Roedd ganddo hefyd “bryderon bod yna fflatiau preswyl gerllaw” a bod “2.00 yn ymddangos yn hwyr”.

Dywedodd Mr Roberts: “Mae hyn yn debygol o wahodd cwyn niwsans cyhoeddus am sŵn.”

Nododd ei bod wedi bod yn “bositif i economi nos Bangor fod lleoliad newydd yn agor yn dilyn y cyfnod cythryblus ar ôl Covid”.

“Yr ochr arall yw ei bod yn ymddangos bod nifer cynyddol o bobl yn ymweld â Bangor gyda'r nos a bod materion cyn Covid yn dechrau ailymddangos,” meddai.

Ychwanegodd Mr Roberts bod swyddogion sy’n gweithio gyda'r nos eisoes wedi codi pryderon am nifer y bobl yn y lleoliad.

“Rwy'n tynnu sylw’n benodol at Star Kebabs yn dilyn amser cau yng Nghlwb Nos Trilogy.

“Byddai agor lleoliad arall yn cynyddu nifer yr ymwelwyr, ac yn fy marn broffesiynol yn cynyddu’r risg o farwolaeth neu anaf difrifol.”

Cafodd llun yn dangos torf o bobl yn yr ardal ei chynnwys er mwyn “dangos” pryderon yr heddlu

Bydd Cyngor Gwynedd yn penderfynu ar y mater ddydd Llun, 10 Mehefin.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.