Dod o hyd i gorff dyn 52 oed mewn pentref ger Caernarfon
Mae corff dyn 52 oed wedi ei ddarganfod mewn pentref ger Caernarfon ddydd Llun.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi derbyn adroddiad o bryder am ddiogelwch dyn fore dydd Llun, toc wedi 10.30yb.
Ar ôl chwilio yn lleol cafodd corff y dyn ei ddarganfod ym mhentref Carmel yng Ngwynedd, milltir a hanner o Benygroes.
“Yn anffodus, gallwn gadarnhau bod corff dyn 52 oed wedi’i ddarganfod yng Ngharmel brynhawn ddoe,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru.
“Tra'n bresennol, nododd swyddogion ddeunydd a allai achosi pryder yn yr ardal.
“Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i’r lleoliad.
“Yn dilyn ymchwiliadau ar y cyd â’r gwasanaethau brys, ni wnaethon ni ddarganfod unrhyw beth a fyddai yn peri pryder parhaus i’r cyhoedd.”
Mae'r crwner wedi cael gwybod.
'Anodd'
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard Griffith: “Mae ein meddyliau gyda theulu’r dyn ar yr adeg anodd hon.
“Roedd hwn yn ddigwyddiad unigol, a chafodd y gwasanaethau brys eu galw’n ôl tua 20.15 yn dilyn ymholiadau ar y cyd a ddaeth i’r casgliad nad oedd unrhyw bryderon ehangach i’r gymuned.
“Hoffwn ddiolch i drigolion yr ardal am eu dealltwriaeth a’u hamynedd wrth i ni gynnal ein hymchwiliadau.”