Rhybudd i bobl Llandysul wedi i ladron dorri i mewn i sawl adeilad
Mae’r heddlu wedi rhybuddio pobl Llandysul i fod yn wyliadwrus wedi i ladron dorri i mewn i sawl adeilad yn y dref.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod lladron wedi torri i mewn i chwe eiddo ers Mai 28 a phedwar o’r rheini ar yr y stryd sy’n rhedeg tu hwnt i neuadd y dref.
Roedd y lladron wedi torri i mewn i gyfres o siediau ar y stryd rhwng hanner nos a 5.00 y bore ar 29 Mai.
Roedd hen ysgol hefyd wedi ei thargedu ar 29 Mai a thŷ preswyl Awel Deg ger yr Eglwys ddwywaith, ar 2 a 3 Mehefin.
Dywedodd yr Arolygydd Dros Dro, Celt Thomas: “Ry’n ni’n ymchwilio i’r byrgleriaethau a bydd swyddogion lleol yn targedu gweithgaredd amheus yn yr ardal.
“Bydden ni hefyd yn gofyn bod unrhyw bobl neu weithgareddau amheus yn cael eu hadrodd i’r heddlu.
“Hoffwn annog preswylwyr i sicrhau bod eu heiddo’n ddiogel a bod eiddo gwerthfawr yn cael eu cadw dan glo.
“Does dim problem fawr gyda byrgleriaeth yn ein hardal ni. Fodd bynnag, gall diffyg diogelwch yn gyffredinol ganiatáu i fyrgleriaid fynd i mewn i'ch cartref neu'ch siediau.
“Os cymerwch amser i asesu diogelwch eich cartref, dilyn cyngor defnyddiol a chymryd camau cadarnhaol, gallwch leihau’r risg.”
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu ar-lein.