Newyddion S4C

Jeffrey Gafoor, llofrudd Lynette White, yn cael ei ryddhau o'r carchar

ITV Cymru
Lynette White

Fe fydd Jeffrey Gafoor, sydd wedi treulio 21 mlynedd yn y carchar am lofruddio Lynette White yng Nghaerdydd, yn cael ei ryddhau o’r carchar ar barôl.

Cafodd Gafoor ddedfryd oes yn 2003 ar ôl i ddatblygiadau mewn technoleg DNA ei gysylltu â llofruddiaeth Lynnette White, oedd yn 20 oed, yn ei fflat yn ardal dociau Caerdydd yn 1988.

Cafodd Ms White ei thrywanu dros 50 o weithiau yn yr ymosodiad.

Mewn gwrandawiad parôl preifat, sef chweched gwrandawiad Gafoor, daeth y bwrdd i’r casgliad y byddai’r risg o’i ryddhau yn gallu cael ei reoli yn ddiogel yn y gymuned.

Fe gafodd Gafoor, oedd yn 38 oed ar y pryd, ddedfryd oes yn y carchar gyda chyfnod o 13 mlynedd o leiaf, yn yr achos yn Llys y Goron Caerdydd fis Gorffennaf 2003. Daw wedi iddo bledio’n euog i drywanu Ms White dros 50 gwaith yn olynol yn dilyn ffrae dros £30.

Yn wreiddiol, cafodd tri dyn dieuog eu carcharu am lofruddiaeth Ms White yn 1990, cyn i’w dedfrydau gael eu diddymu yn dilyn apêl yn 1992.

Ar ôl ail-agor yr achos, daeth yr heddlu yn ymwybodol o gysylltiad Gafoor â Lynette White 11 mlynedd yn ddiweddarach.

Cafodd ymchwiliad £30m ei lansio i Heddlu De Cymru wedi hynny – yr ymchwiliad mwyaf erioed mewn i lygredd yn un o heddluoedd Prydain.

Nod yr ymchwiliad oedd ceisio canfod a oedd 13 o swyddogion wedi gwyrdroi cwrs cyfiawnder wrth newid tystiolaeth. 

Ond yn 2011, daeth yr achos yn ymwneud ag wyth o swyddogion i ben wedi i ddogfennau fynd ar goll.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.