Newyddion S4C

'Dyn hyfryd gydag amser i bawb': Teyrngedau i Liam Payne yn dilyn ei farwolaeth

Liam Payne

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r cyn aelod o'r band One Direction Liam Payne fu farw yn 31 oed. 

Fe syrthiodd Mr Payne o drydydd llawr gwesty yn Buenos Aires ddydd Mercher.

Dywedodd pennaeth gwasanaeth meddygol brys y ddinas, Alberto Crescenti, bod y seren wedi ei gludo i ysbyty Casa Surno ond ei fod wedi dioddef “anafiadau difrifol iawn" ac nad oedd “unrhyw obaith iddo oroesi".

Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu bod eu "calonnau wedi eu torri" yn sgil ei farwolaeth, gan ychwanegu mewn datganiad y bydd "Liam yn byw am byth yn ein calonnau a byddwn yn ei gofio am ei enaid caredig, doniol a dewr."

Ychwanegodd y teulu eu bod yn "cefnogi ei gilydd yn y ffordd orau bosib ac yn gofyn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod ofnadwy yma."

Dywedodd Lloyd Macey, cyn gystadleuydd ar raglen yr X Factor ei fod yn "newyddion ofnadwy o drist." 

"Gwrddes i â Liam ar y daith X Factor, dyn hyfryd gydag amser i bawb a phob un," meddai. "Heddwch i’w lwch."

Fe wnaeth y brodyr Jedward, a oedd hefyd wedi cystadlu ar X Factor, roi teyrnged i'r seren ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd John ac Edward Grimes eu bod nhw'n “anfon cryfder at ei fab Bear a Cheryl a holl deulu One Direction”.

'Amser i bawb'

Dywedodd y cyflwynydd teledu Dermot O'Leary, a gyflwynodd rhaglen yr X Factor pan oedd Mr Payne yn cystadlu, mai dyma oedd y "newyddion gwaethaf.

"Dwi'n ei gofio fel bachgen 14 oed a ddaeth i gystadlu yn yr X Factor, ac yn ein syfrdanu ni drwy ganu Sinatra. Roedd o wrth ei fodd yn canu," meddai.

"Roedd ganddo amser i bawb, yn glên, diolchgar a wastad yn barchus."

Ychwanegodd y canwr Olly Murs, a oedd yn gystadleuydd ar y rhaglen flwyddyn cyn Mr Payne, "nad oedd ganddo eiriau" wedi'r farwolaeth.

"Roedd Liam yn rhannu'r un angerdd â mi, yr un breuddwydion felly mae gweld ei fywyd yn dod i ben mor ifanc yn anodd i dderbyn, dwi wedi fy llorio a mor drist dros ei deulu ac wrth gwrs ei fab Bear yn colli ei dad."

'Cofio am byth'

Dywedodd seren The Wanted Max George ei fod wedi cyfarfod Mr Payne tra'r oedd yn cystadlu ar yr X Factor gydag One Direction.

"Dros y blynyddoedd diwethaf, cefais y pleser o ddod i'w adnabod yn bersonol a threulio mwy o amser gwerthfawr gydag o," meddai.

"Roedd o'n gwbl hyfryd o ran cefnogaeth pan aeth Tom (Parker) yn sâl, gan berfformio yn y Royal Albert Hall gyda ni ar gyfer Stand Up To Cancer. 

"Fe wnaeth o fy nghefnogi i'n fawr yn bersonol wedi i Tom farw. Fe wna i gofio hynny am byth." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.