Erol Bulut i aros ymlaen fel rheolwr Caerdydd
Bydd Erol Bulut yn aros ymlaen fel rheolwr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ar ôl arwyddo cytundeb newydd.
Mae’r gŵr o Dwrci wedi cytuno i ymestyn ei gytundeb am ddwy flynedd yn ychwanegol gan ymrwymo i aros gyda’r Adar Gleision.
Roedd ansicrwydd dros ddyfodol Bulut yn Stadiwm Dinas Caerdydd wrth i’w gytundeb gwreiddiol ddod i ben ddechrau Mehefin.
Wrth gael ei holi fis diwethaf, dywedodd Bulut nad oedd yn gwybod os byddai’r clwb yn cynnig estyniad i’w gytundeb, ar ôl i Gaerdydd orffen yn y 12fed safle yn y Bencampwriaeth yn ei dymor cyntaf wrth y llyw.
Ond daeth cadarnhad ddydd Mawrth y bydd yn aros ymlaen tan 2026.
Dywedodd Bulut: “Rwy’n falch iawn ac yn hapus i fod yn ymestyn fy amser gyda chi i gyd yma ym mhrifddinas Cymru.
“Rwyf am ddiolch i Tan Sri Vincent (perchennog y clwb) am roi ei ymddiriedaeth ynof i arwain ein clwb i’r dyfodol.
“Mae'n bleser gennyf wneud hynny ac rwy'n gwerthfawrogi fy mod wedi cael cynnig y cyfle gwych hwn.
“Fy niolch hefyd i Mehmet Dalman a Ken Choo am eu cefnogaeth, yn ogystal â chefnogwyr Clwb Pêl-droed Caerdydd sydd wedi gwneud y daith hyd at y pwynt hwn mor bleserus a chofiadwy.
“Mae’n fraint bod yn rhan o’ch teulu.”
Llun: Asiantaeth Huw Evans