Merch oedd mewn gwrthdrawiad wnaeth ladd tri yn rhoi teyrnged
Mae merch wnaeth oroesi gwrthdrawiad yn Sir Stafford lle bu farw tri o’i ffrindiau wedi rhoi teyrnged iddyn nhw.
Cafodd Dafydd Hûw Craven-Jones, 18, o Danyfron, Wrecsam a Morgan Jones, 17, o Goedpoeth, Wrecsam eu lladd ar Ffordd Cannock yn Penkridge ddydd Sadwrn 25 Mai.
Bu farw Sophie Bates o dref Stafford hefyd yn yr ysbyty ar ddydd Mawrth 28 Mai.
Roedd y tri yn teithio mewn car Ford Ka pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Fe aeth Brooke Varley, 17 oed, oedd hefyd yn y car, i’r ysbyty gydag anafiadau ond mae erbyn hyn yn ôl adref.
Wrth rhoi teyrnged i’r tri dywedodd Ms Varley o Newport yn Sir Amwythig bod y tri yn “bobl anhygoel”.
“Mi o’n i eisiau talu teyrnged i fy nhri ffrind Sophie, Morgan a Daf. Dw i mor drist fy mod i wedi colli pobl mor anhygoel o fy mywyd.”
Dywedodd mai Sophie Bates fydd ei “hysbrydoliaeth i wella ac i wneud popeth na chafodd hi y cyfle i wneud”.
“Roedd Morgan yn un o’r bobl mwyaf doniol dw i’n adnabod. Mi oedd wastad yn barchus, caredig ac annwyl. Mi oedd o wastad yn edrych ar fy ôl i.
“Roedd Daf yn enaid caredig ac yn caru ei ffrindiau."
Ychwanegodd ei bod yn meddwl am deuluoedd y tri a’r holl bobl sydd wedi eu heffeithio.
Mae Heddlu Sir Stafford yn dweud ei bod eisiau siarad gyda unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu sydd ag unrhyw wybodaeth am y car yn arwain at y gwrthdrawiad.