Newyddion S4C

Tri o blant gafodd eu hamddifadu yn frodyr a chwiorydd

04/06/2024
Greenway Newham, Llundain

Roedd gan fabi bach a gafodd ei gadael mewn bag siopa yn Llundain frawd a chwaer oedd hefyd wedi eu gadael mewn amgylchiadau tebyg.

Cafodd y ferch fach ei darganfod yn Newham gan aelod o’r cyhoedd ym mis Ionawr eleni pan oedd y tymheredd o dan y rhewbwynt.

Y gred yw ei bod hi ond wedi cael ei geni ryw awr yn gynt.  

Mae profion DNA wedi dangos bod ganddi frawd a chwaer a gafodd eu gadael yn yr un ardal o Lundain yn 2017 a 2019 pan oedden nhw newydd eu geni.

Mae Heddlu’r Met yn dal i ymchwilio er mwyn darganfod pwy yw rhieni’r plant.

Daw’r manylion ar ôl i’r barnwr yn y llys plant godi’r cyfyngiadau oedd yn atal newyddiadurwyr rhag datgelu’r cysylltiad rhwng y tri a'u bod yn ddu. 

Fe wnaeth yr asiantaeth newyddion PA a’r BBC gais i godi’r cyfyngiadau.

Yn ôl y barnwr Carol Atkinson fe ddylai’r cyfyngiadau gael eu codi am fod yna “fudd cyhoeddus” mewn adrodd ar y stori.

“Mae gadael babi yn y wlad yma yn beth anghyffredin iawn, iawn ac mae yna flynyddoedd yn digwydd lle nad oes yr un yn cael ei adael. Oherwydd hyn, mae’r stori fod plentyn wedi ei adael o fudd cyhoeddus.”

Mae'r plant hŷn wedi eu mabwysiadu tra bod y ferch fach yn parhau mewn gofal maeth. 

Fe glywodd y llys hefyd y bydd y tri yn cael gwybod eu bod yn frodyr a chwiorydd a bod yna gynlluniau iddynt fod mewn cyswllt â'i gilydd wrth iddynt dyfu i fyny. 

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.