Cyhoeddi manylion cynllun 'grwpiau cyswllt' mewn prifysgolion a cholegau
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion cynllun fyddai'n galluogi sawl "grŵp cyswllt" o hyd at chwe aelod neu un grŵp unigol o hyd at 30 o fyfyrwyr i dderbyn addysg mewn prifysgolion a cholegau gyda'i gilydd.
Byddai'r cynllun yn cael ei weithredu mewn lleoliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach, addysg seiliedig ar waith a dysgu cymunedol yn yr hydref, os bydd y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn caniatáu hynny.
Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd Jeremy Miles, y Gweinidog dros y Gymraeg ac Addysg y byddai grwpiau cyswllt "yn cael eu modelu ar fwy nag un grŵp o hyd at 6, neu grwpiau unigol o hyd at 30, yn dibynnu ar gapasiti'r lleoliad neu'r ystafell."
Bydd angen i'r sefydliad addysg hefyd gynnal asesiadau risg a bodloni'r gofyniad i gymryd camau rhesymol i atal trosglwyddo'r feirws.
Mae bwriad hefyd i gael gwared ar y rheol ymbellhau cymdeithasol o 2 fetr ar gyfer myfyrwyr a dysgwyr sy'n oedolion, mewn lleoliadau dysgu.
Nod y cynlluniau yw caniatáu mwy o ddysgu wyneb-yn-wyneb, ar yr amod bod y risg yn isel neu’n gymedrol medd y llywodraeth.
Dywedodd Jeremy Miles: "Ein hegwyddor arweiniol yw symud tuag at alluogi addysg i weithredu mewn ffordd sydd mor 'normal' â phosibl yn yr hydref. Felly rydym yn cynllunio ar sail y ffaith y bydd addysg oedolion yn gweithredu'n unol â'r hyn y gall oedolion ei wneud yn y gymdeithas ehangach.
"Bydd grwpiau cyswllt ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion yn golygu y gallwn gael mwy o ddysgu wyneb-yn-wyneb, a rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth i leddfu’r effeithiau niweidiol ar addysg. Efallai y bydd angen gofyn i gysylltiadau agos hunanynysu o hyd, os bydd swyddogion olrhain cysylltiadau Profi Olrhain Diogelu yn barnu y dylent.
"Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid yn ystod yr wythnosau nesaf i ddatblygu'r fframwaith a darparu canllawiau manwl pellach ar sut y bydd y grwpiau hyn yn gweithio."