Etholiad 24: Arolwg yn awgrymu fod Llafur ar y blaen yng Nghymru
Gyda'r Etholiad Cyffredinol yn cael ei gynnal fis nesaf, mae arolwg barn newydd yn awgrymu bod y blaid Lafur gryn dipyn ar y blaen i’r Ceidwadwyr yng Nghymru.
Yn ôl arolwg barn Barn Cymru, a gafodd ei gynnal gan YouGov ar gyfer ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd, byddai 45% o bobl Cymru yn pleidleisio dros Lafur yn yr Etholiad Cyffredinol, tra byddai 18% yn dewis pleidleisio dros y Ceidwadwyr.
Dywedodd Dr Jac Larner, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd fod y ffigyrau newydd yn gyson â thueddiadau a welir ar draws y DU ac yn “ychwanegu at y dystiolaeth gynyddol bod Llafur yn anelu am fuddugoliaeth ysgubol, tra bod y Ceidwadwyr yn brwydro i osgoi trechu hanesyddol a cholli holl gynrychiolaeth San Steffan yng Nghymru.”
Ac mae’r arolwg barn hefyd yn awgrymu y byddai mwy o bobl yn pleidleisio dros Reform UK o gymharu â Phlaid Cymru, gyda dros chwarter y rhai a bleidleisiodd dros y Ceidwadwyr yn 2019 bellach yn dweud y byddan nhw yn cefnogi Reform UK eleni.
Roedd traean o’r bobl a gafodd eu holi a gefnogodd Blaid Cymru yn 2019 wedi dweud y byddan nhw'n cefnogi Llafur yn yr etholiad hwn.
“Mae’r stori i Blaid Cymru yn un gyfarwydd iddyn nhw yn etholiadau San Steffan, gyda phleidleiswyr yn newid mewn niferoedd mawr i’r Blaid Lafur,” meddai Dr Larner.
“Mae rhywfaint o dystiolaeth bod y newid hwn yn un tactegol fodd bynnag, gyda'r pleidleiswyr hyn yn dychwelyd i gorlan Plaid Cymru adeg y pleidleisio ar gyfer y Senedd yng Nghaerdydd.
“Mae Reform UK yn elwa o gwymp y Ceidwadwyr gyda 3 o bob 10 pleidlais Geidwadol yn 2019 yn bwriadu pleidleisio drostynt.”
Mewn ymateb i gwestiwn am berfformiad arweinwyr y pleidiau yng Nghymru, dywedodd 57% o bobl eu bod yn meddwl bod Prif Weinidog Cymru Vaughan Gething yn perfformio’n wael, gyda dim ond 15% o’r farn ei fod yn perfformio’n dda.
Bwriad pleidleisio San Steffan:
Llafur - 45% (+3)
Ceidwadwyr - 18% (-2)
Reform UK - 13% (+1)
Plaid Cymru - 12% (-3)
Democratiaid Rhyddfrydol - 5% (-2)
Gwyrdd - 4% (+1)
Arall - 1%
Holodd YouGov 1,066 o bleidleiswyr Cymreig, 16+ oed, rhwng 30 Mai - 3 Mehefin ar gyfer ITV Cymru Wales a Phrifysgol Caerdydd.