Carcharu dyn am 15 mlynedd am dreisio ac ymosod ar ddynes yng Nghaerdydd
Mae dyn 24 oed a ymosododd ar ddynes a'i threisio yng nghanol Caerdydd wedi ei garcharu.
Cafodd Liam David Stimpson ei ddedfrydu i 15 mlynedd o dan glo, ar ôl i reithgor ei gael yn euog o'r troseddau hynny, wedi achos a barodd wyth niwrnod yn Llys y Goron Caerdydd.
Mae Stimpson hefyd wedi ei roi ar y gofrestr troseddwyr rhyw.
Mae'r ddynes fregus wedi treulio cyfran sylweddol o'i bywyd yn ddigartref ar strydoedd y brifddinas.
Ar 27 Rhagfyr 2023, rhedodd i mewn i dafarn y Great Western ar Heol Santes Fair yn noeth gydag anafiadau i'w hwyneb. Dywedodd wrth weithwyr yno ei bod wedi cael ei threisio.
Roedd hi wedi dioddef ymosodiad difrifol gan Stimpson a oedd wedi ei dilyn hyd at lwybr o dan bont reilffordd. Ymosododd arni yno gyda gwrthrych metel a'i churo droeon, cyn ymosod yn rhywiol arni, gan ffilmio hynny ar ei ffôn symudol.
Wedi iddi lwyddo i ddianc a rhedeg oddi wrtho, cafodd ei chwrso gan Stimpson, ac yna tarodd hi i'r llawr gan barhau i ymosod arni yng nghanol y ddinas.
Cafodd y ddynes anafiadau difrifol - roedd ei thrwyn wedi torri ac roedd niwed sylweddol i'w llygad.
Cafodd Stimpson ei arestio wedi i'r heddlu ddod o hyd iddo gyda chymorth deunydd camerâu cylch cyfyng.
Dywedodd Rhianydd Jones, ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru: “Mae'r achos hwn yn tanlinellu pam mor dreisgar yw'r amddiffynnydd.
"Rydym yn ddiolchgar i'r rheithgor am eu hystyriaeth ofalus ac i'r ddioddefwraig am ei dewrder, sydd wedi arwain at y dyfarniad hwn. ”