Newyddion S4C

Yr Hobyd: Rhyfeddu nad oedd yn Gymraeg yn gynt

04/06/2024
Yr Hobyd ac Adam Pearce

Mae dyn sydd wedi addasu llyfr gan JRR Tolkien i’r Gymraeg yn dweud ei fod yn rhyfeddu nad oes unrhyw un arall wedi gwneud hynny o’i flaen.

Mae disgwyl i Yr Hobyd, cyfieithiad Cymraeg gan Adam Pearce o The Hobbit, gael ei gyhoeddi ddiwedd Mehefin neu ddechrau Gorffennaf.

Roedd iaith Sindarin nofelau Tolkien wedi ei seilio ar y Gymraeg.

Mi oedd Tolkien yn hoff iawn o'r iaith, gan ei disgrifio fel iaith “brydferth” a oedd yn perthyn i “dir” Ynysoedd Prydain.

Serch hynny er bod The Hobbit wedi ei chyfieithu i dros 60 o ieithoedd gan gynnwys y Wyddeleg, Lladin a Lwcsembwrgeg nid yw erioed wedi bod ar gael yn y Gymraeg.

Dywedodd y cyfieithydd, Adam Pearce, ei fod wedi dechrau ar y gwaith bum mlynedd yn ôl yn ystod y clo mawr.

O’r Barri yn wreiddiol a bellach yn byw ym Mhorthcawl, fe raddiodd gyda doethuriaeth mewn cyfieithu o Brifysgol Bangor.

Erbyn hyn mae o yn bennaeth y Gymraeg o fewn Bwrdd Iechyd Powys.

Ar ôl cynnig y cyfieithiad i weisg Cymraeg yng Nghymru heb lwc, penderfynodd sefydlu ei wasg ei hun, Llyfrau Melin Bapur.

Y bwriad oedd cyhoeddi'r nofel a chlasuron eraill oedd heb weld golau dydd yn Gymraeg.

“Mae’n rhyfedd iawn nad yw hi wedi bod ar gael o’r blaen,” meddai. “Mae ystâd Tolkien wedi trwyddedu fersiynau mewn ieithoedd llai o lawer.

“Daeth y syniad tra’n oeddwn i’n darllen Lord of the Rings mewn Almaeneg. Dyw fy Almaeneg ddim yn wych ond roeddwn i’n deall beth oedd yn digwydd am fy mod i’n nabod y stori mor dda.

“Roeddwn i’n meddwl y byddai yn ddefnyddiol i ddysgwyr ond hefyd pobl oedd ddim yn gyfarwydd â’r byd llenyddol Cymraeg felly ddim yn gwybod lle i ddechrau darllen llyfrau Cymraeg.”

Image
Map yr Hobyd
Map yr Hobyd

Mapiau

Mae nofelau JRR Tolkien yn llawn enwau dieithr oedd angen eu haddasu i’r Gymraeg fel Bilbo Baglan o Ben-y-Bag, y dewin Gandalff a’r ddraig Smawg.

Fe gafodd Adam Pearce ei helpu wrth gyfieithu'r nofel gan JRR Tolkien ei hun meddai.

Fe wnaeth JRR Tolkien ysgrifennu canllaw i gyfieithwyr, The Guide to the Names in The Lord of the Rings.

“Mae’n dweud er enghraifft fod angen i gyfieithiad o’r gair ‘hobbit’ fod yn air gwreiddiol, ac na all fod yn air a fyddai ddim yn gwneud synnwyr yn yr iaith frodorol,” meddai.

“Ond oherwydd bod rhai enwau eraill, er enghraifft enwau’r corachod, yn deillio o iaith y corrach neu ieithoedd eraill mae’n rhaid eu gadael yr un fath.”

Un o’r heriau mwyaf meddai oedd trosi'r mapiau a darluniau sy’n britho tudalennau Yr Hobyd.

Roedd y cyfan, meddai, yn gorfod cael sêl bendith ystâd Tolkien cyn bod modd cyhoeddi.

“Roedd rhaid ail-greu llawysgrif Tolkien fel eu bod nhw’n edrych mor agos at y gwreiddiol â phosib,” meddai.

“Un penderfyniad oedd peidio â chynnwys yr enwau Eingl-sacsonaidd a ddefnyddiodd Tolkien ar ei fapiau a’i ddarluniau a defnyddio rhai Derwyddol Iolo Morganwg yn lle.

“Pen tost arall oedd pan oedd Bilbo a Gollum yn cael eu gornest enwog Riddles in the Dark – yn rhannol am nad oes gair Cymraeg amlwg am ‘riddles’!

“Mi wnes i hefyd dreulio oriau yn cyfieithu'r holl gerddi a chaneuon sy' yn y llyfr.”

Image
Cofis dre? Y troliaid yn ffilm The Hobbit
Cofis dre? Y troliaid yn ffilm The Hobbit

Cofi

Mae Adam Pearce yn dweud ei fod wedi osgoi tafodieithoedd oherwydd bod JRR Tolkien ei hun wedi gwneud hynny, heblaw yn un achos.

“Rydw i’n tueddu i feddwl fod yna ormod o dafodiaith mewn ysgrifennu yn Gymraeg,” meddai.

“Dydi o ddim yn fersiwn i ddysgwyr ond mae’r iaith yn eithaf niwtral yn y gwreiddiol felly rydw i wedi glynu at hynny.

“Yr un eithriad ydi bod y troliaid yn siarad ag acen Cockney ac yn y Gymraeg maen nhw’n siarad ag acen ‘Cofi’ Sir Gaernarfon.

“Rydw i’n gobeithio nad ydw i’n tramgwyddo unrhyw un drwy wneud hynny!”

‘Hir’

Mae yna farchnad amlwg ar gyfer y llyfr meddai.

Er nad ydy o wedi gwneud fawr ddim i hyrwyddo'r cyfieithiad mae wedi derbyn mwy o geisiadau o flaen llaw amdani nag unrhyw lyfr arall o’i wasg hyd yma.

“Mae yna farchnad y tu hwnt i siaradwyr Cymraeg oherwydd mae yna bobol sy’n casglu fersiynau gwahanol o lyfrau Tolkien hefyd,” meddai.

Y cwestiwn amlwg olaf ydy a fydd yn symud ymlaen at gyfieithu Lord of the Rings pan fydd Yr Hobyd yn gweld golau dydd.

Fe fyddai wrth ei fodd yn gwneud, ond nid yw amser nac yr arian fyddai ei angen yn ei gwneud yn dasg hawdd, meddai.

“Mae’r Hobyd tua 90,000 o eiriau felly’n eitha’ hir - ond mae Lord of the Rings yn dri chwarter miliwn o eiriau!” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.