Newyddion S4C

'Pryderon' dros gynllun i godi gorsaf ynni ar gyrion Caernarfon

03/06/2024
Gwaith Nwy Caernarfon.jpg

Mae grŵp gymunedol yng Nghaernarfon wedi mynegi ‘pryderon’ dros gynlluniau i godi gorsaf  nwy 'o arwyddocâd cenedlaethol' ar gyrion y dref.

Mae cwmni Seiont Ltd, sydd yn gweithio gyda chwmni peirianyddol Jones Bros Rhuthun, eisiau adeiladu'r orsaf nwy ar safle'r hen waith brics yn Chwarel Seiont, yn agos i ystad dai'r Hendre.

Bydd yr ymgynghoriad dros y cynllun yn dod i ben ar 14 Mehefin.

Mae grŵp Caernarfon Lân wedi codi “pryderon cymunedol” ynglŷn â’r sgil effeithiau posibl y gallai llygredd, sŵn, a phroblemau traffig eu cael ar iechyd cyhoeddus, bywyd gwyllt a’r amgylchedd, gan nodi fod tai ac ysbyty yn agos i'r safle.

Fe wnaeth 58 o bobl leol leisio eu gwrthwynebiad i’r cynllun mewn cyfarfod cymunedol fis Tachwedd y llynedd.

Mewn datganiad, dywedodd cadeirydd y grŵp, Gretel Leeb, eu bod yn teimlo y dylai lleoliad y safle achosi “larymau i ganu” oherwydd yr effaith bosib ar y tirwedd, yr ystadau tai cyfagos, yr ysbyty, cae chwarae, afon Seiont a’r coed hynafol.

Fe wnaeth cwmni Jones Bros gwblhau proses ymgynghori cyhoeddus y llynedd, a chyn rhoi cais llawn, mae wedi ymgynghori â chorff Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) a Chyngor Gwynedd.

Oherwydd bod y cynllun yn cael ei ystyried fel datblygiad "o arwyddocad cenedlaethol", nid cyngor Gwynedd fydd yn gwneud penderfyniad ar y cais cynllunio.

 

Image
Gwaith Nwy Caernarfon
Darlun o'r injan nwy fydd yn rhan o gais am orsaf egni yn Chwarel Seiont

Mi fyddai’r orsaf yn defnyddio nwy a oedd yn arfer bwydo'r gwaith brics, er mwyn cynhyrchu 20 megawat o drydan ar gyfer y Grid Cenedlaethol.

Byddai’r datblygiad yn cynnwys 10 injan nwy naturiol, setiau cynhyrchu, ystafell gyfnewid ac adeilad cyfleuster lles i weithwyr cynnal a chadw’r safle, ar safle wedi'i ffensio, mewn ardal tua 3300 medr sgwâr. Ni fyddai unrhyw weithwyr parhaol ar y safle.

Mae Siân Gwenllian, yr AS lleol, wedi dweud bod cynlluniau pellach i falu concrît ar y safle wedi “codi”.

Yn ôl yn 2008, collodd 50 o weithwyr eu swyddi pan gaeodd Hanson y gwaith brics, gan ddod â bron i 200 mlynedd o hanes gwneud brics yn y dref i ben.

Mae Jones Bros Ruthin Ltd wedi ailagor y safle yn y blynyddoedd diwethaf ac wedi ei ddefnyddio fel compownd ac ardal storio concrid ar gyfer ffordd osgoi Caernarfon.

Dywedodd llefarydd ar ran Jones Bros Civil Engineering UK yn flaenorol: “I wneud y mwyaf o’r newid i gynhyrchu trydan adnewyddadwy, mae angen pŵer wrth gefn ar y grid cenedlaethol pan fo allbynnau solar a gwynt yn isel.

“Mae’r prosiect yn cael ei ddosbarthu fel ‘datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol’, gan ei fod yn gallu cynhyrchu mwy na 10MW o ynni, felly o dan reoliadau Llywodraeth Cymru, gweinidogion fydd yn penderfynu ar y datblygiad yn hytrach na’r awdurdod lleol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.