Newyddion S4C

Datblygwyr ynni gwyrdd yng Nghymru yn gallu ‘ecsbloetio’ y diffiniad o ‘berchnogaeth leol’

14/03/2025
Sam Kurtz a fferm wynt

Mae yna beryg y gall datblygwyr ynni gwyrdd yng Nghymru “ecsbloetio” diffiniad y llywodraeth o “berchnogaeth leol” yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.

Dywedodd y pwyllgor economi bod cael swyddfa pencadlys unrhyw le yng Nghymru yn ddigon ar hyn o bryd i gwrdd â diffiniad Llywodraeth Cymru o “berchnogaeth leol”.

Mae’r llywodraeth wedi gosod targed o gynhyrchu 1.5GW o yno yn lleol erbyn 2035.

Ond roedd angen iddyn nhw ddiffinio yn fwy pendant beth oedd perchnogaeth leol yn ei olygu meddai Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.

Mae’r adroddiad yn dweud: “Roeddem yn bryderus ynghylch bylchau posibl yn y diffiniad o ‘berchnogaeth leol’ sy’n agored i’w hecsbloetio fel bod datblygwyr sydd â’u pencadlys yng Nghymru yn cael eu dosbarthu fel ‘perchnogion lleol’,” meddai adroddiad y pwyllgor.

“Credwn fod angen i Lywodraeth Cymru weithredu i fynd i’r afael â’r bwlch hwn, er mwyn sicrhau bod y nodau y tu ôl i’w thargedau perchnogaeth leol yn cael eu cyflawni.”

‘Bylchau’

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at 'fwlch sgiliau' yng Nghymru, sy'n golygu bod prinder pobl sydd â'r mathau o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swyddi ynni gwyrdd.

Gyda phoblogaeth hŷn Cymru a “draen dawn” (brain drain) yn bryderon sefydledig, dywedodd y Pwyllgor eu bod am bwysleisio’r potensial y gallai economi werdd ffyniannus ei chael i'r wlad.

Dywedodd Samuel Kurtz AS, aelod o’r pwyllgor, bod cyfle i ddarparu “swyddi o safon i Gymry ifanc yn eu cymunedau lleol”.

"Mae'r adroddiad heddiw yn tynnu sylw at yr angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â bylchau yn y diffiniad o brosiectau ynni adnewyddadwy 'o dan berchnogaeth leol', gan sicrhau bod manteision economaidd yn aros yng Nghymru,” meddai.

"Er mwyn gwneud y mwyaf o'r buddsoddiad hwn, mae'n rhaid i ni sicrhau bod gan Gymru'r sgiliau gweithlu angenrheidiol ar gyfer economi'r dyfodol. 

“Mae angen dealltwriaeth glir ar Lywodraeth Cymru o ran lle i gryfhau ein system hyfforddi ac addysg i helpu pobl i baratoi.

"Mae gan Gymru botensial aruthrol i fod yn arweinydd yn y sector ynni adnewyddadwy, ond y cam cyntaf yw i Lywodraeth Cymru wrando a gweithredu ar ein hargymhellion heddiw.”

Llun tyrbinau gwynt ar Ynys Môn gan Wessex Archeology.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.