'Ansawdd y dŵr mor wael': Parc dŵr ym Mae Caerdydd am symud
Ni fydd parc dŵr poblogaidd yn gweithredu ym Mae Caerdydd dros yr haf ac mae’r perchnogion yn gobeithio ei symud i rywle arall oherwydd pryderon am ansawdd y dŵr.
Dywedodd swyddog cyngor bod “ansawdd y dŵr mor wael” ym mae Caerdydd bob tro’r oedd yn bwrw glaw trwm nad oedd modd i’r cwmni barhau i weithredu mewn modd “hyfyw” ym Mae Caerdydd.
Ychwanegodd Marcus Goldsworthy, swyddog lleoliadau Bro Morgannwg, eu bod nhw wedi cael cais i leoli'r parc dŵr ym Mhenarth yn lle.
Dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod Harbwr Caerdydd bod safon y dŵr ym Mae Caerdydd yn cael ei brofi yn gyson.
“Nid oes gan Awdurdod Harbwr Caerdydd unrhyw reolaeth dros ansawdd y dŵr sy’n llifo i’r Bae,” medden nhw.
“Fel y cyhoeddwyd yn dda yn ddiweddar, mae ansawdd dŵr yn broblem mewn afonydd, llynnoedd a chyrff dŵr croyw eraill ar draws y DU.”
Bydd Aqua Park, sydd wedi gweithredu yn ystod yr haf yn y brifddinas ers 2019, yn symud i Lyn Cosmeston ym Mhenarth.
Ychwanegodd Mr Goldsworthy: “Yn y bôn bob tro roedd glaw trwm, roedd ansawdd y dŵr mor wael fel nad oedden nhw’n gallu gweithredu felly yn y bôn doedden nhw ddim yn gallu parhau i weithredu mewn ffordd ariannol hyfyw ym Mae Caerdydd.”
Gofynnodd aelodau o bwyllgor craffu Bro Morgannwg sut y byddai bywyd gwyllt yn cael ei warchod yn Llyn Cosmeston ac a oedd ansawdd y dŵr yno'n ddigonol.
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Ernest: “Y mwyaf ydw i’n clywaf amdano, y mwyaf pryderus ydw i am yr effaith y mae’n mynd i’w gael ar y parc cyfan.
“Mae angen arian a mwy o arian ac os oes rhaid i ni ddinistrio heddwch a llonyddwch ein parciau sirol dyna ni.”
Dywedodd Mr Goldsworthy: “O ran ansawdd dŵr, mae’r dŵr yn cael ei brofi ddwywaith y flwyddyn yn Cosmeston i sicrhau bod ansawdd yn cael ei gynnal.”