Newyddion S4C

Gwrthwynebiad lleol i gynllun i godi gorsaf nwy yng Nghaernarfon

28/09/2023
Chwarel Seiont

Mae cynllun i godi gorsaf  nwy 'o arwyddocâd cenedlaethol' ar gyrion Caernarfon wedi derbyn cryn wrthwynebiad yn lleol.

Mae cwmni peirianyddol Jones Brothers Ruthin eisiau adeiladu'r orsaf nwy ar safle'r hen waith brics yn Chwarel Seiont, yn agos i stad tai'r Hendre.

Mae'r cwmni newydd gwblhau proses o ymgynghori cyhoeddus ynglŷn â'r cynllun, a'r cam nesaf fydd gwneud cais cynllunio llawn i gorff cynllunio Llywodraeth Cymru, Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC).

Oherwydd bod y cynllun yn cael ei ystyried fel datblygiad "o arwyddocad cenedlaethol", nid cyngor Gwynedd fydd yn gwneud penderfyniad ar y cais cynllunio. 

Mi fyddai’r orsaf yn defnyddio nwy a oedd yn arfer bwydo'r gwaith brics, er mwyn cynhyrchu 20 megawat o drydan ar gyfer y Grid Cenedlaethol.

Byddai’r datblygiad yn cynnwys 10 injan nwy naturiol, setiau cynhyrchu, ystafell gyfnewid ac adeilad cyfleuster lles i weithwyr cynnal a chadw’r safle, mewn compownd wedi'i ffensio, mewn ardal o faint o tua 3300 medr sgwâr. Ni fyddai unrhyw weithwyr parhaol ar y safle.

Image
Gorsaf Egni Caernarfon
Darlun o'r injan nwy fydd yn rhan o gais am orsaf egni yn Chwarel Seiont.

'Argyfwng hinsawdd'

Er bod rhai'n poeni ynglŷn â llygredd aer, mae’r asesiad Effaith Ansawdd Aer sydd ynghlwm â’r ymgynghoriad yn awgrymu na fydd yr orsaf yn cael 'effaith niweidiol sylweddol' ar y bobl sydd yn byw yn yr ardal gyfagos.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi datgan nad ydyn nhw’n credu y byddai’r datblygiad yn debygol o gael ‘effaith sylweddol ar yr amgylchedd’.

Serch hynny, mae’r lleol o Senedd Cymru, Siân Gwenllian, wedi datgan ei bod yn gwrthwynebu’r cynllun.

Mae menter gymdeithasol Datblygiadau Egni Gwledig (DEG), sydd wedi ei leoli yn y dref,  wedi anfon llythyr yn gwrthwynebu’r cynllun yn ogystal.

Dywedodd Grant Peisley, sylfaenydd DEG: “Rydym wedi gwrthwynebu’r syniad o’r orsaf pŵer nwy yng Nghaernarfon. Mae'r Asiantaeth Ynni Rhyngwladol yn dweud ni ellir adeiladu unrhyw ddatblygiad nwy, olew neu glo newydd os ydan ni am gyrraedd sero net erbyn 2050. Felly dyna’r prif reswm – mae ‘na argyfwng hinsawdd, a da ni ddim yn gallu llosgi mwy o danwydd ffosil.

Image
Grant Peisley,
Grant Peisley, sylfaenydd DEG

“Mae ffynonellau adnewyddadwy fel gwynt, solar, biomas, hydro, i gyd yn rhatach a glanach, ac yn fwy cynaliadwy, na’r orsaf pŵer nwy. Mae’r ffynonellau yma’n ddibynadwy a hyblyg, heb niweidio’r amgylchedd neu iechyd dynol.

“Da ni’n clywed gan bobol gyffredin ar draws Gwynedd a does dim lot o gefnogaeth i greu mwy o orsafoedd pŵer tanwydd ffosil – s’dim ots os mae’n nwy, olew neu niwclear chwaith. Mae lot o gefnogaeth amdanyn nhw gan bobl sy’n gweithio yn y sector, ond mae pobl gyffredin yn poeni am niwclear, just fel maen nhw’n poeni am danwydd ffosil.”

Dywedodd y cynghorydd Gareth Coj Parry, sydd yn cynrychioli'r ardal ar Gyngor Gwynedd, ei fod wedi ymweld â’r safle ar wahoddiad gan Jones Brothers. Ond dywedodd fod 'diffyg' gwybodaeth yn lleol wedi troi pobl yn erbyn y cynllun.

Image
Gareth Coj Parry
Cynghorydd Gareth Coj Parry

“Dwi 'di bod i’r site, gesh i wadd gan Jones Bros i’r site i ddangos yn union be maen nhw eisiau wneud,” meddai.

“Ond mae pobol Hendre sydd yn byw i’r cefn iddo fo yn erbyn y cynllun, a rheina sy’n byw ochr arall am gyfeiriad Bontnewydd.

“Yn bersonol, sa’n well gen i ‘sa nhw wedi bod yn fwy agored am y cynllun. Ma nhw di dangos i fi be mae nhw’n planio neud, ond mae'n rhaid iddyn nhw egluro’r cynllun yn well.

"Mi 'nath rai tai gael llythyr ganddyn nhw, ond nath lot ddim cael llythyr chwaith. Oedd o’n reit sparse, lle oeddan nhw wedi targedu. Os mae nhw isho fo i ddigwydd, mae'n rhaid iddyn nhw egluro, be fydd y noise levels, pollution levels, traffic.

"Mae'n rhaid iddyn nhw roi’r cards on the table a dangos yn union be ma’ nhw’n blanio neud. Mae’n effeithio’r bobol sydd yn byw wrth ymyl fo, ac yn encroachio ar yr ysbyty’n fwy na dim byd.

Dywedodd Anna Jane Evans, sydd yn cynrychioli'r  Hendre ar Gyngor Tref Caernarfon, fod pobl leol wedi cael digon ar waith adeiladu yn agos iddyn nhw, ar ôl i’r safle gael ei ddefnyddio gan Jones Bros i adeiladu ffordd osgoi  Caernarfon a Bontnewydd.

 “Dwi’n ei erbyn o, yn sicr. Mae o’n hollol wallgof i fi. 'Dio ddim yn gwneud ddim synnwyr o gwbl. Dwi ddim yn meddwl bod 'na lot o gefnogaeth iddo fo,” meddai Cynghorydd Evans.

Image
Anna Jane Evans
Cynghorydd Anna Jane Evans

“Yr hen waith frics a’r ardal yno oedd lle gafodd ei ddefnyddio i adeiladu’r bypass efo’r ddealltwriaeth bod nhw’n mynd i adfer yr ardal ar ôl gorffan y lôn a symud o ‘na.

“Mae’r bobol sy’n byw lawr ar Ffordd Melin Seiont di cal coblyn o upheaval ar hyd yr amser lle mae nhw 'di adeiladu’r ffordd, ac mae 'na deimladau cryf lawr y gwaelod ‘na i stopio hyn rŵan. Dydyn nhw ddim isho gwaith yn mynd ymlaen a fwy a mwy o loris trymion yn mynd pasio.”

Ymateb

Dywedodd llefarydd ar ran Jones Bros Civil Engineering UK: “Mae’r cyfnod PAC wedi dod i ben, sef y cyfnod ymgynghori cyn cyflwyno cais ar gyfer y prosiect hwn. Rydym wedi dilyn y gweithdrefnau ffurfiol ac ystyried ymatebion aelodau o’r gymuned.

“Gyrrwyd llythyrau hysbysu at berchnogion a meddianwyr 68 eiddo sy’n ffinio â’r datblygiad arfaethedig, ac at y cynghorwyr sir sy’n cynrychioli wardiau Hendre, Bontnewydd, Peblig a Chanol Tref Caernarfon.

“Fe’u gyrrwyd hefyd at gynghorau tref a chymuned Waunfawr, Caernarfon a’r Bontnewydd, yn ogystal ag amrywiol sefydliadau eraill i bwrpas ymgynghori.

“Fel rhan o’r broses, postiwyd rhybuddion ffurfiol ar hyd y ffyrdd sy’n arwain at y safle a rhannwyd gwybodaeth am y datblygiad mewn cyfryngau lleol. Rhoddwyd y dogfennau ymgeisio drafft ar gael ar lein gyda chyfeiriad e-bost penodol ar gyfer cyflwyno sylwadau ac adborth.

“Yn rhannau nesaf y broses bydd Jones Bros a Cadnant Planning yn paratoi adroddiad ar y broses PAC. Bydd hyn yn cynnwys yr ymatebion a’r adborth a dderbyniwyd a bydd yn ffurfio rhan o’r cais cynllunio ffurfiol pan gyflwynir hwnnw.“

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.