Newyddion S4C

Y Ceidwadwyr yn addo mynd i'r afael â'r 'dryswch' ynghylch diffiniad cyfreithiol o ryw

03/06/2024
Protest Pride

Mae'r Ceidwadwyr wedi addo diwygio'r Ddeddf Cydraddoldeb i sicrhau bod nodwedd rhyw sy'n cael ei warchod yn cael ei ddiffinio fel "rhyw fiolegol".

Dywedodd y Prif Weinidog Rishi Sunak fod “diogelwch menywod a merched” yn golygu na all y “dryswch presennol ynghylch diffiniadau rhyw” barhau.

Yn ôl y Ceidwadwyr, bydd eu haddewid yn ei gwneud hi’n haws i ddarparwyr gwasanaethau i fenywod a merched atal gwrywod biolegol rhag cymryd rhan.

Gall y gwasanaethau gynnwys rhai sy’n cynnal sesiynau ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru bod Y Ceidwadwyr wedi “chwalu'r economi a'n gwasanaethau cyhoeddus” ac felly yn ymgyrchu ar “gasineb”.

“Mae Plaid Cymru’n sefyll dros degwch i bawb – byddwn yn amddiffyn hawliau pobl draws ac yn gwrthwynebu ymdrechion i arfogi materion sensitif,” meddai.

Yn y cyfamser dywedodd John Healey, Ysgrifennydd Amddiffyn Cysgodol Llafur, wrth BBC Radio 5 Live nad oedd angen diwygio'r ddeddf.

Ychwanegodd fod y Ddeddf Cydraddoldeb “eisoes yn gwarchod lleoedd un rhyw ar gyfer merched biolegol” ond roedd yn cydnabod bod angen “arweiniad cliriach” rhywbeth y byddai Llafur yn ei wneud, meddai.

Nid yw'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwneud sylwadau ar y cynigion eto.

'Gwella amddiffyniadau'

Yn y gorffennol, mae sawl wedi cyhuddo’r Ceidwadwyr o geisio pardduo pobl drawsryweddol fregus wrth chwilio am bleidleisiau.

Mae'r blaid yn dweud ers i'r Ddeddf Cydraddoldeb gael ei chyflwyno yn 2010, nid yw wedi cadw i fyny â "dehongliadau esblygol" o ryw.

O dan y cynlluniau, byddai'r amddiffyniadau presennol ar gyfer pobl drawsryweddol yn parhau.

Mae rhai yn dehongli rhyw fel rhywbeth sy'n cyfeirio'n unig at ryw fiolegol, tra bod eraill yn credu ei fod hefyd yn berthnasol i bobl â thystysgrif cydnabod rhyw. 

Dyma ddogfen gyfreithiol sy'n caniatáu i rywun newid y rhyw gyfreithiol ar eu tystysgrif geni.

Dywedodd Mr Sunak: “Mae diogelwch menywod a merched yn rhy bwysig i ganiatáu i’r dryswch presennol ynghylch diffiniadau rhyw barhau.

“Mae’r Ceidwadwyr yn credu y bydd gwneud y newid hwn yn y gyfraith yn gwella amddiffyniadau mewn ffordd sy’n parchu preifatrwydd ac urddas pawb mewn cymdeithas.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.