Newyddion S4C

'Cyfiawnder i Josh': Mam dyn ifanc yn galw am atebion flwyddyn ers ei farwolaeth

02/06/2024

'Cyfiawnder i Josh': Mam dyn ifanc yn galw am atebion flwyddyn ers ei farwolaeth

Mae mam dyn ifanc a fu farw mewn gwrthdrawiad ger Caernarfon yn galw am 'gyfiawnder' i'w mab, flwyddyn ers ei farwolaeth.

Bu farw Joshua Lloyd Roberts, 19 oed, mewn gwrthdrawiad yng Nghaeathro ger Caernarfon ar 2 Mehefin 2023.

Wrth siarad mewn digwyddiad yng Nghaernarfon er cof am ei mab nos Sul, dywedodd Melanie Tookey wrth Newyddion S4C: "‘Da ni yma heno nid i ddathlu ond i gofio mab fi, Josh Lloyd Roberts, gafodd ei ladd jyst fyny’r lôn rhwng Caeathro a Caernarfon flwyddyn yn nôl i heno.

"Mae o yn lyfli i weld faint o bobl sydd wedi dod i fod efo Josh a sydd yn emosiynol iawn achos does ‘na dal ddim cyfiawnder i Josh, ac mae mab fi yn haeddu hynny.

"Efo’r gefnogaeth sydd yma heno ma pawb yn emosiynol iawn. Ond mae’r daith rwan yn dechrau er mwyn cael cyfiawnder i Josh."

Ychwanegodd Ms Tookey: "'Da ni wedi bod yn gofyn a gofyn am atebion fel teulu. 

"Da ni wedi gorfod cwffio, rwbath dydi mam sydd wedi colli mab mewn circumstances mor frawychus, dwi wedi gorfod cwffio ers day one. Allai ddim datgelu bob dim ond dwi ddim yn mynd i adael hyn fynd.

"Mae hogyn bach fi, mae Josh Lloyd Roberts angen cyfiawnder. Cyfiawnder i Josh. Mae ei ysbryd o yn fyw am byth.

"Un peth udai i ydi, mae’r daith i gwffio am ffordd well i gerddwyr ar y ffordd yn parhau a dwi ddim am adael o fynd."

Hyd yma, does neb wedi ei gyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth Josh, ac ym mis Hydref y llynedd fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru gau’r achos. 

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi darparu esboniad i Melanie Tookey am yr hyn y maen nhw’n credu wnaeth ddigwydd i'w mab ar noson ei farwolaeth 12 mis yn ôl.

Yn ystod ymchwiliad yr heddlu fe gafodd dyn 19 oed, ac yn ddiweddarach dyn 32 oed, eu harestio mewn cysylltiad â’r gwrthdrawiad ond ni chafodd neb eu cyhuddo yn swyddogol. 

Roedd Josh yn wreiddiol o Gaernarfon, ac yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ac yn un o aelodau y Gymdeithas Gymraeg yn y brifddinas. 

Roedd yn gefnogwr brwd o dîm pêl-droed Everton ac yn aelod ffyddlon o’r Wal Goch. Roedd hefyd yn bêl-droediwr oedd wedi chwarae i dimoedd Bontnewydd, Caernarfon a’i brifysgol. 



 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.