Y cyn chwaraewr rygbi'r gynghrair Rob Burrow wedi marw yn 41 oed
02/06/2024
Mae'r cyn-chwaraewr rygbi'r gynghrair Rob Burrow wedi marw yn 41 oed.
Roedd Rob Burrow yn byw gyda chyflwr Motor Niwron (MND) ar ôl derbyn diagnsosis yn 37 oed.
Enillodd Burrow wyth teitl Super League gyda chlwb Leeds Rhinos.
Derbyniodd CBE yn rhestr anrhydeddau'r flwyddyn newydd am ei wasanaethau i gyflwr motor niwron.
Mae ei ffrind agos, Kevin Sinfield OBE, sydd yn adnabyddus am chwarae dros Leeds Rhinos ac yn ddiweddarach fel hyfforddwr i dîm rygbi’r undeb Lloegr, wedi llwyddo i godi miliynau o bunnoedd dros elusen MND Association dros y blynyddoedd.
Ei ysbrydoliaeth er mwyn gwneud hyn oedd cefnogi ei ffrind a chyn cyd-chwaraewr, meddai.