Newyddion S4C

Gwrthod gwobr i Robert de Niro am ei sylwadau am Donald Trump

02/06/2024
Robert De Niro

Ni fydd yr actor Robert De Niro yn derbyn gwobr fawreddog a hynny wedi iddo ddweud mewn araith fod Donald Trump yn "glown" ac yn "unben" y tu allan i achos llys y cyn-arlywydd. 

Fe wnaeth rheithgor mewn achos cyfreithiol hanesyddol yn Efrog Newydd benderfynu fod Donald Trump yn euog o 34 cyhuddiad troseddol ddydd Iau.

Mr Trump oedd y cyn-arlywydd cyntaf i wynebu achos llys troseddol, ac ef yw'r cyntaf i gael ei ddyfarnu'n euog o drosedd yn hanes yr UDA.

Fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar 11 Gorffennaf.

Ymunodd Robert De Niro â phrotest y tu allan i'r llys yn Efrog Newydd ddydd Mawrth, gan alw'r cyn-arlywydd yn "anghenfil" a dadlau gyda chefnogwyr Trump. 

Mae Sefydliad Cenedlaethol y Darlledwyr (NAB) wedi penderfynu gwneud tro pedol ar gynnig i wobrwyo Mr De Niro gyda'r wobr yr oedd fod i dderbyn ddydd Mawrth nesaf. 

Dywedodd llefarydd ar ran yr NAB fod y digwyddiad yn "falch o fod yn ddwybleidiol, gan uno pobl ar draws y sbectrwm gwleidyddol i ddathlu gwaith pwysig ein darlledwyr lleol a'n partneriaid.

"Er ein bod yn cefnogi'n gryf yr hawl i bob Americanwr ddefnyddio'u rhyddid barn, mae'n glir y byddai gweithredoedd diweddar Mr De Niro yn gallu tynnu i ffwrdd o'r gwaith dyngarol yr ydym ni'n gobeithio gydnabod.

"Er mwyn parhau i ganolbwyntio ar enillwyr y gwobrau, ni fydd Mr De Niro yn mynychu'r digwyddiad bellach."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.