Newyddion S4C

Merch 13 oed o Gaerdydd wedi marw ar wyliau teuluol yn Florida

02/06/2024
Discovery Cove

Mae merch ifanc o Gaerdydd wedi marw tra ar wyliau teuluol yn Florida.

Cafwyd hyd i Anna Beaumont, 13 oed, mewn pwll nofio yn Discovery Cove, Orlando, a bu farw ddiwrnod yn ddiweddarach wedi ymdrechion parafeddygon i'w hachub.

Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu: "Mae'n ddrwg gennym adrodd bod Anna Beaumont, 13 oed wedi marw yn yr ysbyty ar 29 Mai, 2024. 

Bydd angen i unrhyw wybodaeth am achos a dull ei marwolaeth ddod o Swyddfa'r Archwiliwr Meddygol."

Dywedodd Andrew Williams, pennaeth ysgol Anna, sef Ysgol Gyfun Radur: “Mae meddwl am golli plentyn yn daith annirnadwy a gwn fy mod yn siarad ar ran cymuned yr ysgol gyfan pan ddywedaf fod ein meddyliau gyda theulu Anna wrth iddynt geisio i ddod i delerau â'u colled.

“Roedd Anna yn aelod annwyl o’n teulu ysgol, a bydd ei habsenoldeb yn cael ei deimlo’n fawr gan ddisgyblion, staff a phawb a gafodd y fraint o’i hadnabod.

“Fe wnaeth ei hysbryd, ei charedigrwydd a’i phresenoldeb gyffwrdd â chymaint o fywydau.”

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Discovery Cove: “Ymatebodd ein staff i argyfwng yn ymwneud â gwestai ddoe (Mai 28).

“Darparodd ein tîm ofal a chysylltodd aelodau â Gwasanaeth Tân ac Achub Orange County.

“Pan gyrhaeddodd personél brys, fe wnaethon nhw gymryd rheolaeth o'r sefyllfa a chludo'r gwestai i ysbyty cyfagos.

“Allan o barch at breifatrwydd ein gwesteion, nid ydym yn darparu unrhyw wybodaeth am iechyd. Mae ein meddyliau gyda'r teulu hwn."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.