Newyddion S4C

Llafur yn gwadu 'parasiwtio' ymgeiswyr o du allan i gynrychioli seddi diogel

02/06/2024
etholiad

Mae AS Llafur wedi amddiffyn penderfyniad ei blaid i ddewis ymgeiswyr o du allan ar gyfer seddi diogel yng Nghymru, gan fynnu bod trafodaeth yn lleol i’r penderfyniad.

Mae pryderon wedi eu codi ar ôl i bennaeth y felin drafod a chyn gynorthwyydd Llafur Torsten Bell ac Alex Barros-Curtis, cyfarwyddwr gweithredol materion cyfreithiol y blaid, gael eu dewis fel ymgeiswyr ar gyfer Gorllewin Abertawe a Gorllewin Caerdydd ddydd Gwener. 

Fe wnaeth cyn AS Llafur Cwm Cynon, Beth Winter, gyhuddo’r blaid o “orfodi ymgeiswyr” yn dilyn y broses gyflym, gan ei ddisgrifio fel “sarhad ar Gymru”.

Mae'n ymddanos nad oes gan Mr Bell unrhyw gysylltiad â Chymru, tra fod Mr Barros-Curtis wedi bod mewn ysgol yng Ngogledd Cymru.

Ond mae Stephen Kinnock, sy’n sefyll dros Lafur yn Aberfan Maesteg, wedi mynnu bod y penderfyniad wedi’i wneud gyda chefnogaeth y blaid leol.

Dywedodd wrth y BBC: “Roedd yna aelodau o’r Blaid Lafur etholaethol ar y ddau bwyllgor dethol hynny.

“Cafwyd mewnbwn gan aelodaeth y blaid leol yn y ddau achos."

Ni wnaeth Mr Kinnock ateb pan gafodd ei holi a oedd Mr Bell erioed wedi bod i Abertawe.

Ond, ychwanegodd: “Yr hyn y bydd Torsten yn ei wneud yw gweithio hyd ei eithaf i ddangos ei fod yn gwbl ymroddedig i bobl Gorllewin Abertawe.

“Fe fydd yn meithrin ymddiriedaeth a pherthynas gref gydag aelodau ei blaid, fel hoffwn i feddwl fy mod i wedi gwneud, ac yn y diwedd, mae pobol eisiau enw, maen nhw eisiau AS sy’n llais cenedlaethol cryf a yn ymgyrchydd lleol gweithgar, a dyna fydd Torsten ac Alex.”

'Pryderus'

Wrth siarad ag asiantaeth newyddion PA ddydd Sadwrn, dywedodd Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, fod y penderfyniad i “barasiwtio” ymgeiswyr Llafur yn “arwydd pryderus ynglŷn â beth fyddai agwedd Llafur mewn llywodraeth tuag at Gymru”.

Dywedodd: “Rydym yn gweld gostyngiad yn nifer yr ASau yng Nghymru o 40 i 32.

“Os ydych chi ymhlith y 32 hynny wedi parasiwtio mewn ymgeiswyr nad ydyn nhw yno oherwydd eu bod eisiau chwarae unrhyw ran yng ngwleidyddiaeth Cymru, mae hynny’n gwanhau llais Cymru."

Yr ymgeiswyr ar gyfer Gorllewin Abertawe yw Torsten Bell (Llafur), Tara-Jane Sutcliffe (Ceidwadwyr), Gwyn Williams (Plaid Cymru), Patrick Benham-Crosswell (Reform), Peter Jones (Y Blaid Werdd), Gareth Bromhall (Clymblaid yr Undebau Llafur a Sosialwyr).

Yr ymgeiswyr ar gyfer Gorllewin Caerdydd yw Alex Barros-Curtis (Llafur), James Roberts Hamblin (Y Ceidwadwyr), Kiera Marshall (Plaid Cymru), ymgeisydd o'r Democratiaid Rhyddfrydol - i'w gadarnhau, Jess Ryan (Y Blaid Werdd), Peter Hopkins (Reform), a Akil Kata (Plaid Gweithwyr Prydain).

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.