Syr Keir Starmer yn addo torri lefelau mudo i'r DU
Mae arweinydd y Blaid Lafur Syr Keir Starmer wedi addo torri lefelau mudo i'r DU.
Mae wedi rhoi'r cynllun ym maniffesto'r Blaid Lafur, a bydd yn cynnwys pasio cyfreithiau er mwyn gwhardd cyflogwyr sy'n torri'r gyfraith rhag cyflogi gweithwyr o dramor.
Dywedodd fod yn rhaid i ffigwr net mudo y llynedd o 685,000 "ddod i lawr" gan addo "cymryd rheolaeth o'n ffiniau."
Byddai Llywodraeth Lafur yn gwahardd penaethiaid sy'n torri cyfraith cyflogaeth, er enghraifft drwy fethu â thalu gweithwyr y cyflog isafswm, rhag cyflogi gweithwyr o dramor.
Ychwanegodd mai'r bwriad fyddai i sicrhau fod y wlad "yn llai dibynnol ar fewnfudiad drwy hyfforddi rhagor o weithwyr Prydeinig".
Mae Llafur wedi ymestyn eu mantais dros y Ceidwadwyr bellach i 20 pwynt yn ôl pôl opiniwn newydd, cwta fis cyn dyddiad yr etholiad ar 4 Gorffennaf.
Dywedodd y Ceidwadwyr, sydd wedi cyflwyno mesurau yn ddiweddar i leihau'r nifer o bobl sy'n cyrraedd y DU, "nad oes yna unrhyw un yn coelio fod Syr Keir o ddifrif wrth fynd i'r afael â mewnfudo."
Mae Plaid Cymru yn dweud bod angen system fudo sy'n gweithio i Gymru ac nad defnyddio mudwyr fel 'bwch dihangol' ydy'r ateb.
Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol ei fod yn "glir" bod y Ceidwadwyr wedyn methu ar fewnfudo ac wedi "torri pob addewid y maen nhw erioed wedi ei wneud."