Hala Madrid: Coroni'r Los Blancos yn bencampwyr Ewrop unwaith eto
Mae Real Madrid wedi ennill Cynghrair y Pencampwyr am y 15fed tro.
Fe enillodd y Los Blancos o 2-0 yn erbyn Borussia Dortmund yn Stadiwm Wembley nos Sadwrn wedi goliau hwyr gan Dani Carvajal a Vinicius Jr.
Roedd hi'n noson weddol dawel i seren Lloegr Jude Bellingham, ond mae bellach wedi ennill Cynghrair y Pencampwyr, La Liga a'r SuperCopa yn ei dymor cyntaf gyda Madrid.
Roedd hi'n noson emosiynol i Toni Kroos hefyd, a gyhoeddodd y byddai'n gadael Real Madrid ar ddiwedd y tymor.
Mae'r canlyniad yn golygu mai Syr Alex Ferguson ydy'r rheolwr diwethaf i guro Real Madrid mewn ffeinal Ewropeaidd, hynny dros 40 mlynedd yn ôl gydag Aberdeen.
Wrth siarad ar ôl y gem, dywedodd rheolwr Real Madrid Carlo Ancelotti: "Mae'n teimlo fel breuddwyd ond nid breuddwyd ydi hi...dwi'n ofnadwy o hapus, roedd hi'n gêm hynod o anodd fel yr arfer. Fe chwaraeodd Dortmund yn well na ni yn yr hanner cyntaf, a ni oedd y gorau yn yr ail hanner, dyna ydi ffeinal."