Dyn 77 oed yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol wedi gwrthdrawiad yn Y Rhyl
Mae dyn 77 oed yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol wedi gwrthdrawiad ar ffordd yn Y Rhyl fore Sadwrn.
Fe gafodd Heddlu'r Gogledd eu galw am 08:22 wedi adroddiadau fod cerddwr wedi cael ei daro ar Heol Kingsley.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ac fe gafodd y cerddwr, dyn 77 oed, ei gludo mewn hofrennydd i'r ysbyty yn Stoke gan yr Ambiwlans Awyr.
Er bod y cerbyd wedi stopio i ddechrau wedi'r gwrthdrawiad, ni lwyddodd i aros yn ardal.
Daeth swyddogion o hyd i'r cerbyd yn ddiweddarach, sef Ford Focus arian, wedi ei barcio y tu allan i gyfeiriad ar Ffordd Marsh.
Fe gafodd pedwar unigolyn, tri dyn ac un dynes, oedd y tu fewn i'r eiddo eu harestio ar amheuaeth o droseddau gyrru.
Mae'r pedwar yn parhau yn y ddalfa.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Andy Gibson: "Mae'r cerddwr mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty ond mae wedi profi anafiadau difrifol.
"Dwi'n erfyn ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu unrhyw un oedd ger Heol Kinglsey fore Sadwrn i gysylltu â ni cyn gynted â phosib."
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod Q078453.