Gerard Coutain yn cipio medal y Prif Gyfansoddwr yn Eisteddfod yr Urdd
Gerard Coutain, sy’n 16 oed ac yn byw yn Rhydaman, yw Prif Gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024.
Yn wreiddiol o Wlad Pwyl, mae Gerard yn byw yng Nghymru ers wyth mlynedd ac yn dysgu Cymraeg.
Mae Gerard yn ennill teitl y Prif Gyfansoddwr am gyfansoddi darn rhythmig ac egnïol dan y teitl ‘Triawd o Llannerch y goedwig’ ar gyfer ffliwt, fiola a thelyn.
Daeth 14 ymgais i law, gyda’r beirniaid Gareth Glyn a Guto Pryderi Puw yn cael “cryn foddhad yn pori drwy’r amrywiaeth o ddarnau difyr.”
Meddai Gerard: “Ar ôl dysgu chwarae’r piano pan oeddwn yn 6 oed, dechreuais gyfansoddi yn 14 oed, ond dwi heb dderbyn unrhyw hyfforddiant cyfansoddi ffurfiol.
"Rwyf wedi cael fy ysbrydoli gan amrywiaeth o gyfansoddwyr, gan gynnwys Bach, Stravinsky, Debussy, Lili Boulanger, ac yn fwy diweddar Walter Leigh.
“Mae’r darn rydw i wedi’i gyfansoddi wedi’i sgorio ar gyfer triawd o ffliwt, fiola a thelyn. Ei nod yw archwilio elfennau mympwyol byd natur a llên gwerin, a’r gwahanol seiniau y byddech chi’n eu disgwyl o lannerch goedwig gudd.”
Dywedodd y beirniaid: “Mae’r enillydd yn llwyddo i arddangos medr dechnegol hyderus a dawn naturiol i ysgrifennu ar gyfer offerynnau’r ensemble. Dyma ddarn afieithus, llawn egni a oedd yn ein cadw ar flaenau’n sedd o’r bar cyntaf i’r bar olaf.
“Roeddem o’r farn, y gellid fod wedi cynnig y wobr i unrhyw un o’r pedwar yn y dosbarth cyntaf ac fe’i hanogir ynghyd â’r holl gystadleuwyr eraill i barhau i gyfansoddi – daliwch ati.”
Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Rafik Harrington o Gaerdydd, a David John Ingham o Abertawe oedd yn drydydd.
Rhoddwyd y Fedal eleni gan William a Ffion Hague, Plas Cyfronydd, a noddwyd y seremoni gan Ymddiriedolaeth Pantyfedwen.