Dyn yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio dynes ar draeth Bournemouth
Mae dyn 20 oed wedi’i gadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos yn y llys wedi’i gyhuddo o lofruddio Amie Gray ac o geisio llofruddio ail ddynes ar draeth Bournemouth.
Dim ond i gadarnhau ei enw a’i gyfeiriad y siaradodd Nasen Saadi o Croydon yn ystod y gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Poole ddydd Sadwrn.
Mae wedi ei gyhuddo o lofruddio Ms Gray, 34 oed, ar draeth Durley Chine ar 24 Mai, ac o geisio llofruddio Leanne Miles, 38 oed yn yr un lleoliad.
Dywedodd Louise Holmes ar ran yr erlyniad: “Cais y Goron yw i’r diffynnydd gael ei gadw yn y ddalfa gan ei fod wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth ac nid oes ganddo hawl i fechnïaeth heddiw.”
Cafodd ei achos ei anfon i Lys y Goron Winchester ar gyfer gwrandawiad ar ddydd Mawrth, 4 Mehefin, ac fe gafodd Mr Saadi ei gadw yn y ddalfa tan hynny.