Troseddau Trump: Beth fydd yn digwydd nesaf?
Troseddau Trump: Beth fydd yn digwydd nesaf?
Wedi i reithgor mewn achos cyfreithiol hanesyddol yn Efrog Newydd benderfynu fod cyn-arlywydd yr UDA Donald Trump yn euog o 34 cyhuddiad troseddol, mae'r newyddiadurwraig Maxine Hughes yn egluro beth sy'n digwydd nesaf.
"Wel mae'n ddiwedd wythnos llawn tensiwn yma yn yr Unol Daleithiau, y dyfarniad yn achos Donald Trump yn dod nos Iau a'r cyn-arlywydd yn euog ar bob un cyhuddiad, 34 o gyhuddiadau troseddol, felly beth sydd nesaf?
"Mae tîm Trump yn mynd i apelio yn y dyddiau nesaf, a hefyd, 'dan ni yn gwybod bod Donald Trump yn cael ei ddedfrydu ar 11 Gorffennaf, pump diwrnod cyn y Republican National Convention (RNC) pan bydd Donald Trump yn cael ei gydnabod fel ymgeisydd swyddogol y Gweiriniaethwyr.
"Wrth gwrs, os ydi Donald Trump yn gorfod mynd i'r carchar, fydd yna ddim sôn o Mr Trump yn yr RNC, a mae yn bosib bod Donald Trump yn gallu cael ei ddedfrydu am bedair blynedd ar bob cyhuddiad.
"Mae'n fwy tebygol 'falle bo' ni'n mynd i weld o yn cael ei arestio yn y tŷ ac yn gorfod aros am gyfnod yn y tŷ, mae'n golygu wedyn ei fod dal yn gallu cario ymlaen i ymgyrchu, fydd o'n gallu defnyddio cyfryngau cymdeithasol.
"Ond yn bendant, roedd y cyn-arlywydd yn bwriadu mynd o gwmpas yr Unol Daleithiau dros y misoedd nesaf felly mae'r dyfarniad yma wedi newid pethau.
"Ydi o wedi cael effaith negyddol ar Donald Trump? Wel ar hyn o bryd, na dwi ddim yn meddwl bod o.
"I fod yn onest, os byddai rhaid i mi ddyfalu am sut mae'r Democratiaid yn teimlo, fyswn i'n deud falle bo' 'na bach o nerves o gwmpas y Democratiaid ar hyn o bryd achos ers iddo fo gael y dyfarniad yna, mae Donald Trump wedi ennill mwy o gefnogaeth.
"Mae bob ymchwil sydd wedi cael ei neud yn dangos bod o wedi ennill pwyntiau a dydd Iau oedd y diwrnod mwyaf llwyddiannus i ymgyrch Donald Trump ar gyfer codi arian felly mae cefnogwyr Donald Trump wedi dod allan yn syth yn rhoi arian i Donald Trump ac yn dweud yn bendant eu bod nhw dal yn mynd i bleidleisio i'r cyn-arlywydd.
"Falle os dio'n mynd i'r carchar bydd petha'n newid a bydd Americanwyr yn dweud 'Wel 'dan ni ddim yn siwr os 'dan ni eisiau pleidleisio am rywun sydd yn y carchar' ond ar hyn o bryd, does dim byd sydd yn dangos hynna.
"Mae'n bwysig hefyd i wneud y pwynt bod Donald Trump yn gallu parhau i redeg am yr etholiad hyd yn oed os mae o'n mynd i'r carchar. Stori sydd yn ddigynsail, 'dan ni erioed wedi gweld unrhyw beth fel hyn a dwi'n siwr bod 'na lawer iawn mwy i ddod dros y dyddiau nesaf."